Croeso i Flwyddyn yr Awyr Agored
2020 yw Blwyddyn yr Awyr Agored Croeso Cymru ac yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae gennym nifer dirifedi o lefydd awyr agored i chi eu mwynhau. Mae Alan Bowring (Geoparc Fforest Fawr) wedi crynhoi pumdeg a dau o bethau y gallwch eu profi yn yr awyr agored yn y Parc Cenedlaethol eleni.
Boed chi ond yn gwneud un ohonyn nhw, neu lond dwrn neu’r cwbl ohonynt yn 2020, profwch nhw a mwynhewch nhw. Ac wrth i chi fynd, cofiwch drin y bryniau hyn, eu creaduriaid a chymunedau’r Parc â pharch.
Gyrrwch hanes eich anturiaethau diweddaraf atom drwy dagio @bannaubrycheiniog ar Facebook ac @croesobannau ar Instagram.
- Rhyfeddwch ar geinder esgair Cribarth, y bryn sy’n codi’n serth uwch ben Parc Gwledig Craig-y-nos.
- Dilynwch nant i’w tharddle – mae digon o ddewis er enghraifft yn ardal Waun Fach.
- Gwyliwch doriad gwawr o ben un o’n bryniau mawr. Mae’r golau cyntaf hwnnw yn rhoi rhyw wawr hudol dros y bryniau. Rhowch gynnig ar Fan Gyhirych.
- Gwyliwch yr haul yn machlud o ben un o’n copaon mawr. Dewiswch eich noson, byddwch yn saff o’ch llwybr, byddwch yn barod i ddod nôl i lawr yn y tywyllwch! Pen y Fan efallai?
- Beth am olrhain pedair ystlys y gwersyll gorymdeithio Rhufeinig ar Y Pigwn? Ailadroddwch y gamp ar gyfer yr ail wersyll! Allwch chi weld y claviculae?
- Eisteddwch ar y Mynydd Du a gwylio’r Barcud Coch yn cylchdroi uwch ben. Gwyliwch nhw yn gloddesta yng ngorsaf fwydo Llanddeusant.
- Rhowch gynnig ar droedio ar hyd rhagfuriau bryngaer fwyaf de Cymru yng Ngharn Goch.
- Mwynhewch hufen iâ neu baned a phice ar y maen ar ben troadau’r Rhigos ac enwch yr holl gopaon a’r dyffrynnoedd yn y Parc Cenedlaethol wrth edrych ar ‘amlinell y moelni maith’ draw i gyfeiriad y gogledd.
- Yn ôl y chwedl bydd y Maen Llia yn mynd lawr i yfed dŵr yr afon ar hirddydd haf ym mis Mehefin. Byddwch yno i weld beth sy’n digwydd go iawn.
- Cofrestrwch i glywed awdur lleol yng Ngŵyl Lenyddiaeth y Gelli ym mis Mai. Gwnewch oed i fynd i’r lleoliad yr ysgrifennon nhw mor angerddol amdano a dod i’w adnabod.
- Ymunwch ag un o deithiau cerdded Gŵyl Gerdded Crucywel i fyny i’r bryniau yn gynnar ym mis Mawrth. Gwisgwch yn ddigon cynnes, rhag ofn!
- Crwydrwch strydoedd Y Fenni yn ystod yr Ŵyl Fwyd flynyddol ym mis Medi. Sylwch sawl un o’r strydoedd sy’n cyfeirio’ch golygon at olygfeydd braf o’r bryniau.
- Mwynhewch daith mewn bad ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu neu llogwch gwch i gael mordwyo drosoch eich hun!
- Beiciwch ar hyd hen linell reilffordd Gofilon i fyny drwy geunant Clydach o Lan-ffwyst.
- Treuliwch orig yn gwylio’r adar dŵr ar Lyn Syfaddan o’r guddfan yn Llangasty Tal-y-llyn.
- Beth am flasu diferyn o chwisgi yn Nistyllfa Penderyn yna dilyn Llinell Reilffordd Penderyn tua’r de hyd at derfyn y Parc.
- Gyrrwch – neu feiciwch – y ffordd darmac uchaf yng Nghymru wrth i chi groesi Bwlch yr Efengyl yn y Mynyddoedd Duon.
- Craffwch i’r düwch ym Mhorth yr Ogof neu ewch i mewn gydag un o’r nifer o ddarparwyr gweithgareddau awyr agored yn y Parc.
- Padlwch eich canŵ i lawr yr afon o’r Clas-ar-Wy i’r Gelli Gandryll.
- Sefch mor syth â’r muriau yn Eglwys Cwm-iou. Yna ewch i ddarganfod y myrdd o lwybrau sy’n blethwaith dros y llethr ansad y codwyd yr eglwys arno.
- Mwynhewch yr olygfa banoramig o copa Pen-y-fal. Mae sawl llwybr i’r copa – dewiswch lwybr na wnaethoch ei cherdded o’r blaen.
- Syllwch i lawr ar Y Fenni o’r grib uwch ben Cwm Craf ar y Blorens.
- Dilynwch Lwybr Clawdd Offa uwchlaw dyffryn Ewyas ar hyd crib Y Cefn ar y Mynyddoedd Duon, sef y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
- Rhyfeddwch at Eglwys Gadeiriol Aberhonddu o’r tu mewn a’r tu allan iddi ac yn y gwanwyn mwynhewch goetir Gelli’r Priordy islaw’r gadeirlan. Mae’r lliwiau yn yr hydref yno’n hynod o hardd!
- Ewch i ferlota ar y llwybrau ceffylau sy’n britho tiroedd comin ein bryniau yn y dwyrain.
- Pwyllwch ger Pwll-y-wrach lle mae’r Enig yn tasgu dros ymyl y dibyn i bwll o ddŵr gwyn.
- Syllwch i’r Awyr Dywyll wrth Briordy Llanddewi Nant Hodni. Dyma un o’r safleoedd syllu ar y sêr pennaf yng Ngwarchodfa Awyr Dywyll Rhyngwladol Bannau Brycheiniog.
- Rhyfeddwch at y môr o las wrth i glychau’r gog flodeuo bob gwanwyn yng Nghoetir Coed Cefn.
- Dilynwch un o’n hen dramffyrdd a rhowch eich hun yn esgidiau’r gweithwyr ddwy ganrif yn ôl. Tybed beth oedd eu profiadau nhw?
- Yr Ysgyryd Fawr: mae golygfeydd digymar i’w mwynhau o’n copa mwyaf dwyreiniol dros diroedd isel sir Fynwy ond bydd gofyn gweithio’n lled galed i’w mwynhau. Neu, os am ddod i’w adnabod yn well, cerddwch yr holl ffordd o amgylch godre’r mynydd.
- Mae Ogof y Siartwyr wedi tanio dychymyg ymwelwyr dros y degawdau. Cyn dyfodiad mudiad y Siartwyr, yr enw arni yn syml oedd Ogof Fawr.
- Crwydrwch ar hyd Tipiau Canada, rhan allweddol o’r Safle Treftadaeth Byd. Gwnewch hynny dan garped o eira a bydd y lle wedi ei weddnewid.
- Ceisiwch beidio dwyn Tolkien i gof wrth ryfeddu at foncyffion gwyrgam y coed ffawydd ar y llwybr sy’n crymanu o gylch y pant a elwir yn ‘Devil’s Punchbowl’.
- Oedwch i fwynhau’r awyrgylch arbennig ger safle claddu Tair Carn Uchaf o’r Oes Efydd.
- Cerddwch ar wely môr Carbonifferaidd Chwarel Herbert – fel mae pethau wedi newid mewn 330 miliwn o flynyddoedd!
- Ewch i grwydro’r llecyn mwyaf diarffordd yng Nghymru. Byddwch chi wedi cerdded o leiaf 5.4km o’ch car er mwyn cyrraedd unigeddau’r rhan yma o Gwm Twrch, hyd yn oed o’i fesur fel yr hed y frân.
- Chwiliwch am weddillion maluriedig yr awyren i’r gorllewin o Garreg Goch. Oedwch ennyd i feddwl am y peilotiaid ifanc a gollodd eu bywydau yn y llecyn hwn flynyddoedd mawr yn ôl.
- Pen-wyllt: ceisiwch wneud synnwyr o’r myrdd llinellau drwy’r tirwedd hwn; mae haen ar ben haen o fanylion yma yn adrodd mwy o straeon fesul milltir sgwâr nag odid yr un rhan arall o’r Parc Cenedlaethol.
- Cymerwch gip i fyny ar fylchfuriau darniog Castell Carreg Cennen ac edrychwch drwy holltau’r saethwyr ar y Mynydd Du. Ai gwir yr haeriad mai ‘dyma furddun mwyaf rhamantaidd Cymru’?
- Ewch i’r Bannau Canolog ond ceisiwch osgoi’r ffyrdd mwyaf poblogaidd – rhowch gynnig ar y trac i fyny Cwm Crew. A byddwch yn wyliadwrus rhag ofn i chi weld y ddraig sy’n cysgu!
- Dringwch i gopa Pen Allt-mawr at y pwynt trig pan fo cymylau o chwith yn glogyn dros lawr y dyffrynnoedd.
- Chwiliwch am olygfan ar ffiniau deheuol Mynydd Epynt i fwynhau’r panorama cyflawn o Benybegwn yn y dwyrain hyd Garreg yr Ogof dros 30 milltir i’r gorllewin. O bwynt tebyg i Fryn y Batel efallai.
- Mapiwch linellau’r myrdd o lwybrau sy’n britho llechweddau serth y Mynyddoedd Du. Mae rhai wedi eu troedio’n aml ac eraill bron yn angofiedig erbyn hyn.
- Gwyliwch fwyeilch y mynydd wrth iddyn nhw chwarae yng nghrochan Craig Cerrig-gleisiad. Mae tiriogaeth mwyalchen y mynydd wedi crebachu yn y cyfnod diweddar ond mae modd eu gweld nhw o hyd.
- Ceir deuddeg cronfa ddŵr yn y Parc Cenedlaethol, ewch o amgylch un ohonynt. Gallwch gerdded neu feicio o amgylch Cronfa Wysg, y fwyaf.
- Ymgollwch yn y cefnau a’r pantiau o dan Gwar y Gigfran. Dyma un o dirlithriadau mwyaf dramatig y Parc.
- Yn eich pen, ceisiwch fynd yn ôl bedwar milenia i geisio dychmygu yr hyn a oedd ym meddyliau eich hynafiaid yn yr Oes Efydd a adeiladodd y carneddau crwn ar Gefn Car.
- Daliwch y rhimyn o gwmwl sy’n mynnu glynu uwch ben ymylon culaf ceunant Clydach – ai olion ysbryd yw hwn – y Bwci a roes ei enw i Gwm Pwca? Neu ai dim ond anwedd sydd yma wedi ei daflu i’r awyr gan y rhaeadrau islaw Pont y Diafol?
- Darganfyddwch lyncdyllau llawn dŵr ar Fynydd Llangynidr. Ewch yn ôl i’w gweld nhw ymhen chwe mis – ydyn nhw’n dal i fod yn wlyb ac yn llawn dŵr?
- Dilynwch y dramffordd i Graig-y-cilau i fwynhau’r awyrgylch yn un o’r amffitheatrau naturiol gyda’r mwyaf mawreddog. Efallai mai dim ond chi fydd yno i’w fwynhau.
- Atgoffwch eich hun fod rhai o gopaon is y Parc yn cynnig rhai o’r golygfeydd gorau – rhowch brawf ar hynny o ben Tor y Foel.
- Rhedeg allan o stêm? Ewch ar drên stêm Rheilffordd Fynyddig y Bannau i Dorpantau.