Skip to main content

Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

 

Fel un o sioeau stoc dethol gorau Ewrop, bydd y Ffair Aeaf yn denu’r torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau a siopa Nadolig.

Ynghyd â’r amserlen lawn arferol o gystadlaethau, arddangosfeydd ac arddangosiadau, mae’r Ffair Aeaf hefyd yn cynnig cyfle perffaith i’r siopwr craff brynu anrhegion unigryw a gwreiddiol.

Bydd y neuadd fwyd yn cael ei llenwi gan gynhyrchwyr gorau Cymru yn dangos eu cynnyrch ac yn temptio ymwelwyr i roi cynnig ar yr amrywiaeth o ddanteithion hyfryd sydd ar gael.

Bydd y Ffair Aeaf yn agor o 8am ddydd Llun 28 a dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022. Bydd y ffair ar agor tan 8yh ar y nos Lun ar gyfer siopa Nadolig a’r sioe tân gwyllt, a bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau pori, gwrando ar y corau a’r bandiau byw ac efallai gweld Siôn Corn hyd yn oed.

https://rwas.wales/ .

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf