Flailbots ac offer batri
Gyda mwy na 1,200 o filltiroedd o hawliau tramwy cyhoeddus i ni eu gwarchod, llafur cariad yw gofalu amdanyn nhw, a hynny gydol y flwyddyn. O gynnal a chadw’r rhwydwaith o lwybrau sy’n croesi’n bryniau agored, i warchod mewndiroedd, i adfer camfeydd a thocio gwrychoedd ar gaeau a choedwigoedd yr iseldir, mae’n deg dweud fod gan ein tîm ymroddgar o wardeiniaid y parc ddigon i’w wneud. Fel presenoldeb llinell flaen mwyaf gweladwy tiroedd gwyllt y parc, maen nhw’n fwy na pharod am y dasg – ond maen nhw hefyd yn hollol fodlon derbyn ychydig o help pan fo angen.
Gall ymwelwyr wneud eu rhan trwy ddilyn Y Côd Cefn Gwlad: Parchu, gwarchod a mwyhau’r parc a chofio’r ethos ‘o adael dim ôl wrth ei grwydro – ar droed, ar geffyl neu ar feic. Rydym hefyd wedi’n bendithio â byddin o wirfoddolwyr parod sy’n helpu gyda phrosiectau cadwraeth, trwsio llwybrau a chynnal coetiroedd. Yn y cyfamser, yn eu gwaith bob dydd, mae’r wardeiniaid yn cofleidio technolegau modern i helpu lleihau’r llwyth o gadw’n hawliau tramwy ar agor ac yn hawdd eu cerdded.
Byddai rhai llwybrau, sy’n croesi ein tiroedd mwyaf gwyllt a garw, naill ai’n amhosibl neu’n rhy beryglus i ofalu amdan nhw gyda thorwyr gwair traddodiadol. Mae un darn o offer amlbwrpas sydd ar ei ben ei hun mewn mannau mwy heriol fel hyn – y ‘flailbot’.
Meddyliwch amdano fel tanc bach iawn, yn cael ei reoli o bell – ond un sy’n ymosod ar ordyfiant ar lwybrau troed a llwybrau ceffyl, yn hytrach nag ar y gelyn! Gyda warden yn dilyn o bellter diogel y tu ôl, mae’r ‘flailbot’ yn gallu slaesio’i ffordd trwy isdyfiant trwchus – a hyd yn oed glasbrennau a choed bychain – a throi llwybrau cerdded y parc yn faes y gad i lystyfiant.
Wrth gynnal yr hawliau tramwy, rydym yn cofio pob amser fod yn rhaid i ni gadw bioamrywiaeth rhyfeddol y parc a gofalu nad yw ein gwaith yn amharu ar yr amgylchedd ehangach. Yn draddodiadol, mae offer cadw tir proffesiynol megis strimer, llif gadwyn a thorwyr gwrychoedd yn rhedeg ar betrol, a doedd rhai ni ddim yn eithriad – mae’n anodd iawn canfod soced drydan ar Lwybr Taf!
Ond mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu fod fersiynau batri o’r offer hyn yr un mor effeithiol â rhai petrol ac rydym wedi defnyddio grantiau oddi wrth Lywodraeth Cymru i roi offer arweiniol Stihl a Husqvarna i’n tîm.
Ar safle, does dim rhaid i wardeiniaid bryderu am injans yn gwrthod tanio ar foreau oer. Mae pryder am golli tanwydd – yn enwedig ger nant fregus neu ecosystemau afonydd – yn rhywbeth yn y gorffennol. Trwy dynnu o’r paneli solar sydd wedi’u gosod ar do depo’r warden yn Aberhonddu, gallwn wefru’r offer trwy olau’r haul.
Yn fyr, mae pŵer batris yn lanach, gwyrddach ac yn llai swnllyd hefyd – ac nid yw’n wardeiniaid bellach yn gorffen y diwrnod gwaith yn drewi o betrol. Mae twristiaeth gynaliadwy ar ben ein rhestr ac mae hynny hefyd yn un cam arall yn ein taith tuag at garbon niwtral – mae’n wardeiniaid yn gobeithio y bydd ein gweledigaeth yn ysbrydoli eraill hefyd i ystyried peiriannau gardd batris.