Llifolau Dreftadaeth fyw ym mannau Brycheiniog – Porthmoniaeth
Porthmoniaeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Gan Mark Davis, Glanpant Bach
Y broses hynafol o yrru gwartheg ar droed i’r farchnad yw porthmonaeth. Mae gyrru da byw (gwartheg, defaid, moch, tyrcwn a gwyddau) o fryniau Cymru i farchnadoedd Lloegr yn broses sydd wedi bod yn digwydd ers cannoedd, os nad miloedd, o flynyddoedd. Roedd y Normaniaid yn gyfrifol am sefydlu marchnadoedd cig a gwartheg pwysig, a’r enwocaf ohonynt yw Smithfield yn Llundain, marchnad a sefydlwyd dros 800 mlynedd yn ôl. Yn wir, roedd Smithfield yn gyrchfan mor llewyrchus a phwysig i ffermwyr a phorthmyn Cymru fel bod ffermwyr Cymru yn parhau i ddefnyddio’r term “Smithfield” i olygu marchnad wartheg. Roedd da byw Cymru a fagwyd ar laswellt garw’r mynydd yn gydnerth ac yn gryf. Roedden nhw’n gallu goddef y daith hir yn dda ac yn barod i dewhau ar borfa faethlon Lloegr. Felly roedden nhw’n ddelfrydol ar gyfer porthmonaeth ac yn codi prisiau da yn y farchnad. Daeth rhai porthmyn i fod yn gyfoethog iawn.
Roedd y daith o Gymru i Lundain a marchnadoedd pwysig eraill fel Henffordd a Banbury yn hir a gallent gymryd sawl wythnos. Gallai llwybrau o orllewin, de a chanolbarth Cymru (hyd yn oed o’r Iwerddon) fod wedi dod drwy Fannau Brycheiniog. Mae peth arwyddion o weithgarwch porthmonaeth yn parhau ar y tirlun, mae rhai enwau lleoedd ac enwau strydoedd yn awgrymu presenoldeb y porthmyn ac mae nifer o dafarndai’r porthmyn yn parhau ac mae hyd yn oed placiau yn adrodd eu tarddiad porthmonaeth gan rai banciau yr ydym yn eu defnyddio heddiw.
Un o’r nodweddion sy’n galw porthmoniaeth i gof fwyaf y gellir eu gweld heddiw yw’r llwybrau o’r enw ‘ceuffordd’. Maen nhw’n aml yn guddiedig ac yn rhedeg rhwng ffiniau caeau. Gall y llwybrau cau hyn fod dros ddau fetr yn is na’r caeau amgylchynol. Maen nhw’n cael eu nodweddu gan wely creigiog a charegog a’r coed hynafol sydd bob ochr iddynt. Maen nhw’n aml i’w gweld ar lethrau serth ble mae’r uwchbridd wedi codi i’r wyneb gan dda byw yn mynd drosto dros y canrifoedd – gallai gyr mawr fod wedi cynnwys cannoedd o wartheg neu ryw fil o ddefaid. Byddai glaw yn golchi’r uwchbridd hwn ymaith gan erydu’r tir ac arwain at y ffyrdd hudolus suddedig hyn.
Byddai’r porthmyn yn aml yn dilyn llwybrau hynafol a sefydlwyd gan y Rhufeiniaid, yr Oes Haearn neu hyd yn oed yr Oes Efydd. Roedd rhai o’r llwybrau hyn yn esgeiriau uwchdir a oedd yn ei gwneud hi’n hawdd gweld o gwmpas gan leihau’r risg o gudd-ymosodiad gan ladron ac ysbeilwyr gwartheg. Byddai’n haws mordwyo hefyd a byddai modd i’r da byw bori. Cafodd y wybodaeth am lwybrau’r porthmyn eu trosglwyddo o borthmon i borthmon neu o borthmon i’w fab ac weithiau eu newid i fanteisio ar dyrpegau newydd cyflymach neu weithiau i’w hosgoi am fod y doll yn ddrud. Mabwysiadodd porthmyn yn y Bannau arferiad porthmyn o’r Alban, sef plannu Pinwydd yr Alban (tair fel arfer) fel arwyddbost i arwain y ffordd. Yn wir, credir bod Pinwydd yr Alban, a oedd wedi marw allan ar un adeg yng Nghymru a Lloegr, wedi cael ei ail-gyflwyno gan y porthmyn. Roedd yn hawdd adnabod y pinwydd hyn drwy gydol y flwyddyn a phan fyddai’r golau’n wan. Byddai clystyrau o binwydd yn gallu dynodi’r llwybr gorau drwy dirwedd anodd, cyffordd efallai neu groesi afon ond hefyd nodi tafarn i’r porthmyn neu fferm gyfeillgar a allai roi lloches dros nos i’r porthmon neu sicrhau tir pori i’w dda byw. Mae arwyddbyst y porthmyn i’w gweld o hyd ar dirlun y Bannau gan gyfrannu at eu cymeriad unigryw.
Wrth astudio enwau lleoedd Cymraeg ar fap, fe welwch eu bod yn adrodd stori am y tirlun a’r hyn ddigwyddai yno. Er enghraifft, pentref Pengenfford (ble ceir tafarn fach y porthmyn) sy’n gyfuniad o Pen (top) Cefn (ridge) Ffordd (road) – man i’r porthmon gael gorffwys. Ceir fferm yn Aberhonddu o’r enw Tir (ground) Ciw (esgid) ble ceir tystiolaeth o gôr, sef llain drionglog a ddefnyddiwyd i gadw gyr o wartheg i’w pedoli. Credir y gallai’r lle hwn fod yn fan ble y cafodd gwartheg eu pedoli ag esgidiau arbennig – ciws – sef platiau metel tenau ar bob darn o garn y fuwch. Byddai hwn yn diogelu carn y gwartheg ar eu taith hir a’u diogelu ar arwyneb caletach metel y tyrpegau.
Enghraifft arall yw Rhydspence, (rhyd= ford), ble saif hen dafarn y porthmyn ger y rhyd dros Afon Gwy. Mae’r “pence” yn yr enw yn cyfeirio at y geiniog, hanner ceiniog neu ddimai, sef y gost am gorlannu a rhoi’r gwartheg i bori. Mae enwau lleoedd sy’n cynnwys “gyr” (ffordd gyrru gwartheg) fel Rhongyr (diwedd ffordd gyrru gwartheg) yn arwydd sicr o lwybr y porthmyn.
Mae enwau strydoedd hefyd yn gallu adrodd stori: y cyfieithiad o “Ship” St yn Aberhonddu yw Heol y Defaid (sheep nid ship!), mae Newgate St yn cyfeirio at y tyrpeg oedd yno, ac yn Llanfair-ym-Muallt fe ddewch o hyd Smithfield St. Dros y bont o “Ship St” yn Llanfaes gallwch weld tŷ o’r enw Tŷ’r Porthmon.
Mae tarddiad system bancio Cymru mewn porthmoniaeth. Roedd cario arian parod yn fusnes peryglus i’r porthmyn a byddai lladron yn ymosod arnynt yn aml felly roedd yn bwysig dod o hyd i ffyrdd o osgoi hyn. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du yn Llanymddyfri yn Nhafarn y King’s Head gan y porthmon Dafydd Jones. Yn Aberhonddu cafodd Bank Wilkins ei sefydlu i “ariannu gweithgaredd y porthmyn…” (Banc Lloyds bellach).
Eto i gyd byddai cyfnod y porthmyn yn dod i ben. O’u hanterth ar ddiwedd y 18 ganrif, byddai eu gweithgaredd yn cael ei effeithio gan ddyfodiad y rheilffyrdd. Yn ddiweddarach byddai lorïau mawr modur yn cymryd eu lle. Ond trafnidiaeth ag oergell ddaeth ȃ’r porthmyn i ben yn llwyr, drwy alluogi cig i gael ei gadw’n oer a’i gludo’n gyflym. Yn 1953, teithiodd y gyr olaf i gael ei gofnodi yn y Bannau, o Dregaron i Aberhonddu. Fodd bynnag, mae porthmoniaeth wedi gadael ei ôl ar ein tirlun, arferion a’n diwylliant. Mae’r llwybrau ble buont yn troedio yn parhau gyda ni wedi eu claddu o dan ein priffyrdd, mewn lonydd cudd suddedig rhwng caeau ac yn uchel ar esgeiriau’r uwchdiroedd.
Rhan o gyfres o flogiau treftadaeth byw a ariennir gan Atlantic CultureScape