Fan Digwyddiadau Newydd yn Dod a’r Parc i’r Bobl
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiweddar wedi derbyn fan ddigwyddiadau a gwybodaeth drydan a fydd o gwmpas y lle o amgylch y parc yn ystod y flwyddyn. Gyda graffeg amlwg, bydd y fan yn rhoi cyfle i staff rannu gwaith y parc a’n hamcanion at y dyfodol.
Mae’r Awdurdod yn blaenoriaethu gweithio mewn cydweithrediad gyda sefydliadau eraill i daclo materion am newid hinsawdd, bioamrywiaeth, afonydd ac effaith nifer ymwelwyr ar y Parc. Bydd yr e-fan yn hysbysu pobl am waith yr awdurdod a ble gall preswylwyr ac ymwelwyr helpu a gwneud gwahaniaeth positif.
Mae’r fan Peugeot eExpert wedi ei thrawsnewid gan South Wales Campers ym Mhontardawe. Mae’r trawsnewid wedi bod mor gynaliadwy â phosib ac mae ganddo baneli solar sy’n rhoi egni i’r batri ar gyfer goleuni ac egni. Bydd ymwelwyr yn gallu eistedd tu fewn os yw’r tywydd yn wael neu gysgodi dan yr adlen i sgwrsio gyda staff. Mae’r fan wedi ei gorchuddio gyda golygfeydd trawiadol o’r Parc Cenedlaethol a wnaed gan Harris Signs yn Abertawe.
‘Mae’n bwysig ein bod yn cael ein gweld o amgylch y Parc Cenedlaethol,’ meddai Eleanor Greenwood, Swyddog Cyfathrebu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ‘mae angen i ni ledaenu ein neges am ein hamcanion a sut gall pobl ein helpu.’