Owen Thomas
Fy enw yw Owen Thomas, rwy’n Ddramodydd Proffesiynol a chefais fy magu ar fferm yn y bryniau uwchben Bronllys. Mae fy nheulu wedi ffermio ar lethrau Bannau Brycheiniog ers cenedlaethau ar ddwy ochr fy nheulu. Dydw i ddim yn ffermwr, ond mae ffermio yn fy ngwaed. Cychwynnodd fy ngyrfa fel awdur mewn ystafell wely yn edrych ar y Bannau, ac rydw i yn hynod falch i gael fy apwyntio’r Awdur Preswyl Saesneg cyntaf ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r apwyntiad wedi fy ngalluogi i weld bro fy mebyd trwy lygaid newydd. Mae wedi fy annog i edrych yn ddyfnach ar y Bannau, ar yr hyn sy’n ei wneud mor arbennig, ac i gyfarfod rhai o’r bobl sy’n byw, dysgu a gweithio yma. Rwyd wedi cerdded yn ôl troed y miliynau trwy droedio i gopa Pen y Fan yn haul mis Medi i weld y rhywbeth arbennig hwnnw sy’n gwneud i gymaint wneud yr un daith. Rwyf wedi ei gerdded hefyd yn nhrymder y gaeaf a phrofi brad ble roedd heddwch o’r blaen. Rwyf wedi cerdded Craig-y-nos yng nghwmni Rebecca Thomas, fy nghyd awdur preswyl ac Alan Bowring, ein tywysydd, craig gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol. Gyda mam yn gydymaith cerddais i gopa Castell Dinas. Ar fore braf yn dechrau Ionawr, fe safom ble mae miloedd wedi sefyll ers miloedd o flynyddoedd a gyda barcud coch yn troelli oddi tanom, dychmygom ein hunain fel y meirw yn chwilio am bobl yn ymosod o draw.
Rwyf wedi eistedd a syllu mewn tawelwch ar y dŵr yn llyfu glannau Llyn Y Fan Fach. Rwyf wedi sefyll yng nghysgod Abaty Llan Ddewi Nant hodni ac edrych ar y mynyddoedd trwy ei ffenestri gosgeiddig. Rwyf wedi bwyta brechdanau o flaen Castell Carreg Cennen, a chasglu mwyar duon ar y daith ar hyd yr afon oddi tano. Rwyf wedi gweld rhaeadrau ac wedi bod tu ôl iddynt a theimlo’r dŵr oer yng nghledr fy llaw. Rwyf wedi gweld yr adar, y pryfaid a’r anifeiliaid. Rwyf wedi cerdded llwybrau dirifedi, dringo mynyddoedd o bob maint a fesul dipyn wedi cwympo mewn cariad gyda lle roeddwn yn meddwl fy mod yn ei hadnabod yn dda. Mewn llawer ffordd, mae’n teimlo fel cyfarfod gyda hen ffrind. Rydym wedi dal fyny dros sawl sgwrs a phaneidiau lu o goffi.
Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda cherddwyr a chrwydrwyr wrth fynd heibio. Rwyf wedi hela am leoedd parcio a biniau. Rwyf wedi casglu sbwriel ar lwybrau, ac yfed dŵr o nentydd. Rwyf wedi gweld y lliwiau yn newid o dymor i dymor. Rwyf wedi gweld bywyd yng nghanol y gaeaf a marwolaeth yng ngwres yr haf. Rwyf wedi gweld harddwch adfail Eglwys Cwm Iou a’m cyfareddu yng Nghapel y Ffin. Rwyf wedi gweld fy anadl yn wyn wrth ryfeddu ar olygfa o’r Bannau o Llanfihangel Talyllyn, a’m swyno wrth iddi newid fesul eiliad fel siglo glôb eira. Rwyf wedi cerdded strydoedd pentrefi a threfi cyfarwydd. Rwyf wedi ailgysylltu gyda hen ffrindiau, ac wedi cael cip o fersiwn ifancach a gwyrddach ohonof i fy hun.
Rydw i wedi gweld nad yw hyn yn rhyw fath o fywyd delfrydol, ble mae pobl yn treulio dyddiau diog yn syllu ar brydferthwch popeth ac ymhyfrydu ym mha mor ffodus ydynt. Rwyf wedi gweld bod byw yma er mor ffodus, bod yr heriau a’r materion dyddiol yr un mor amlwg â’r mynyddoedd eu hunain. Rydw i yn llwyr ymwybodol o’n cyfrifoldeb am y lle. Wrth fesur yn erbyn y bywydau sydd wedi mynd heibio mae’n bywyd ni i’w weld mor fyr, ond er bod ein bywydau nemor chwinciad chwannen yn hanes y Parc, mae gennym gyfrifoldeb i’w ddiogelu.
Nid ffermwr ydw i, ond awdur a mab i ffermwr ac rwy’n teimlo cyfrifoldeb mawr o geisio cyfathrebu’r hyn rwyf wedi profi, ar hyn rwy’n ei brofi o hyd. Rwy’n gwybod beth yw’r bywyd, ac wedi ei fyw trwy fy 46 blwyddyn. Rwyf wedi gweld beth mae yn ei olygu, y siom a’r llawenydd. Gweddi daer am law neu iddi beidio. Rwyf wedi gweld effeithiau penderfyniadau llywodraeth, afiechydon neu heddwch neu atgasedd byd natur. Rwyf wedi gweld popeth y gellir ei weld wrth geisio gwneud bywoliaeth o’r tir. Ac fel rhywun a anwyd yng ngwres haf ‘76, rwyf wedi gweld yr hinsawdd yn newid.
Rwyf wedi gweld y gofal, y cariad a’r parch at gefn gwlad sy’n llywio pob penderfyniad a meddwl y bobl sydd wedi ymroddi i’r ffordd o fyw heriol ond gwerthfawr hwn. Rwyf wedi gweld genedigaethau a marwolaethau yn y caeau a’r ysguboriau. Rwyf wedi gweld difrod clwy’ traed a’r genau, a gweld pobl yn gwylio wrth i’w bywoliaeth gael ei ladd a’i losgi’n lludw mewn llai na diwrnod.
Fy her yw ysgrifennu drama sy’n cwmpasu fy ngorffennol a fy mhresennol. Rydw i am geisio ymaflyd a’r hen gyfaill a fy adlewyrchiadau o’m magwraeth unigryw a chreu stori, gan ffurfio dialog a naratif. Rydw i am geisio dal popeth rwy’n ei garu am y lle ac esbonio pa mor angenrheidiol yw hi i ni ei ddiogelu. Rydw i am archwilio’r bartneriaeth sy’n bodoli rhwng pobl a’i gilydd a’r tir, ac wrth wneud, ychwanegu fy llais i’r rhai sydd heb eu geni eto fel gallant hwy hefyd ryfeddu at ryfeddod y Bannau.