Skip to main content

Tor y Foel

Gydol Mis Cerdded Cenedlaethol byddwn yn rhannu rhai o hoff deithiau cerdded ein Llysgenhadon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Pwy a ŵyr, efallai daw un yn eich hoff daith gerdded newydd chithau hefyd!

Mae’r daith gerdded heddiw gan Lysgennad Dorian Thomas o TrigPoint Adventures, ei hoff un o Dalybont ar Wysg i Tor y Foel.  Taith sy’n cyfuno allt dda, llwybr camlas a Llwybr Taf. 

Tor Y Foel walk © Dorian Thomas
Dorian ar ben Tor Y Foel  © Dorian Thomas

Pellter – 14.2 km
Amser oddeutu – 5.45 awr

Fel un sy’n tywys cerddwyr o gwmpas Bannau Brycheiniog, byddaf yn aml yn cael fy holi ynglŷn â’m hoff heic yno. Mae’n gwestiwn anodd ei ateb am fod pob un ohonynt yn meddu ar eu nodweddion arbennig eu hunain. Fodd bynnag, mae yna le arbennig yn fy nghalon ar gyfer y tro i Dor y Foel. Er nad hwn yw copa uchaf yr ardal, mae’r golygfeydd o’r brig heb eu hail ac mae’r hanes sy’n gysylltiedig â’r llwybr yn ei wneud e’n un o’m ffefrynnau.

Mae’r heic yn cychwyn ym mhentref eiconig Tal-y-bont ar Wysg sy’n ganolbwynt ar gyfer rhan ddwyreiniol Bannau Brycheiniog ac yn boblogaidd gyda beicwyr mynydd. Mae Tal-y-bont yn cynnwys tair tafarn wych a siop de ardderchog i ddiddanu’r rhai na fyddant yn parhau ar y daith gerdded gyda chi. Fodd bynnag, gall y rhai actif ond llai egnïol gerdded ar hyd llwybr y gamlas a chwrdd â chi ar ôl ichi ddod i lawr o Dor y Foel!

Tor Y Foel walk © Dorian Thomas
Tramffordd Bryn Oer © Dorian Thomas

Rydyn ni’n gadael Tal-y-bont ar hyd Tramffordd Bryn Oer. Cyn ymgolli yn hanes y dramffordd, gadewch inni fynd ar wyriad bach i Ardd Henry Vaughan. Gellir dod o hyd i’r ardd hon ar ochr dde Tramffordd Bryn Oer ychydig ar ôl pasio’r hen bont reilffordd.

Bardd, awdur a meddyg o Gymru oedd Henry Vaughan a drigai yn Nhal-y-bont a’r cyffiniau rhwng 1621 a 1695. Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi ar themâu crefyddol yn bennaf. At hynny, fe gafodd ei addysgu mewn meddygaeth a dechreuodd ymarfer yn y 1640au gan ddod yn adnabyddus am iacháu pobl yn llwyddiannus.

Dychwelwn yn awr i Dramffordd Bryn Oer. Fe’i hagorwyd ym 1815 er mwyn cysylltu meysydd glo Tredegar a chwareli calchfaen Trefil â’r gamlas yn Nhal-y-bont. Mae’r cledrau wedi hen ddiflannu ond mae tystiolaeth o’u bodolaeth i’w gweld wrth eich traed. Edrychwch am gerrig sydd wedi’u siapio naill ai gan y sliperi neu’r cledrau – mae yna ddigon i’w weld, felly edrychwch allan amdanynt. Mae’r hanes wedi’i gofnodi ar fwrdd gwybodaeth hanner ffordd i fyny ac mae hefyd yn rhestru’r prisiau ar gyfer cario gwahanol eitemau ar ei hyd. Yn y 1860au, lleihaodd ei ddefnydd yn sgil dyfodiad y trenau stêm.

Tor Y Foel walk © Dorian Thomas

Yn raddol, mae’r dramffordd yn mynd â ni i’r mynyddoedd ar raddiant hamddenol gan gynnig golygfeydd ysblennydd o Gronfa Ddŵr Tal-y-bont. Dyma’r gronfa ddŵr llonydd fwyaf yng Nghanolbarth Cymru ac mae’n cynnwys 318 o erwau. Cewch hefyd drem ar ymyl ddwyreiniol y rhan ganolog hon o’r Bannau sy’n cynnwys Carn Pica, carnedd “cwch gwenyn” trawiadol ond cymharol fodern.

Tor Y Foel walk © Dorian Thomas
Gronfa Ddŵr Tal-y-bont © Dorian Thomas

Cyn i ni fynd i’r afael â Thor y Foel, mae yna gylch cerrig sy’n cynnwys ardal bicnic ardderchog lle gallwch orffwys, cymryd lluniaeth a mwynhau’r golygfeydd. Mae angen un ymdrech arall i gyrraedd y brig. Cerdded o’r cyfeiriad hwn yw’r ffordd hawsaf o gryn dipyn i gyrraedd copa Tor y Foel!

Mae copa Tor y Foel wedi’i farcio â charnedd carreg. Wedi cyrraedd y man hwnnw, mae’r gwaith caled i gyd wedi’i wneud gan fod gweddill y llwybr ar i lawr ac yn dilyn llwybr y gamlas yn ôl i Dal-y-bont. Ar y brig, cymerwch ennyd i syllu ar yr olygfa banoramig. Ar ddiwrnod da, gallwch weld y Bannau Canolog yn ymestyn allan o’ch blaen gan gynnwys yr olygfa eiconig o Ben y Fan, ac i’r dwyrain fe saif y Mynyddoedd Du gyda Phen Cerrig Calch a Mynydd Pen-y-fâl.

Tor Y Foel walk © Dorian Thomas
Cairn © Dorian Thomas
Tor Y Foel walk © Dorian Thomas
Golygfeydd o’r brig © Dorian Thomas

Wrth i chi ddisgyn, efallai y gwelwch chi bobl eraill yn cerdded tuag at gyfres o gopaon ffug ar yr ochr hon o Dor y Foel sy’n serthach o lawer! Dwi wastad yn teimlo braidd yn hunanfoddhaus ar adegau fel hyn am fod ein llwybr ni’n llawer haws!

Wrth gyrraedd y gamlas, mae yna opsiwn i fynd ar wyriad bach arall i dafarn y Coach and Horses am luniaeth, cyn dychwelyd i Dal-y-bont. Er mwyn ymweld â’r dafarn honno, trowch i’r dde wrth gyrraedd y gamlas neu, fel arall, trowch i’r chwith i ddychwelyd i Dal-y-bont. Mae’r llwybr yn awr yn wastad wrth i chi ddilyn Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn ôl i Dal-y-bont.

Mae Camlas Mynwy ac Aberhonddu oddeutu 35 milltir o hyd ac yn cysylltu Aberhonddu â’r Fenni ac mae’n boblogaidd ar gyfer cychod cul. Fe’i hadeiladwyd dros 8 mlynedd rhwng 1792 a 1800 a’i defnyddio’n bennaf i symud deunyddiau crai i Gasnewydd lle ddaeth y camlesi i ben yn wreiddiol.

Tor Y Foel walk © Dorian Thomas
Camlas Mynwy ac Aberhonddu © Dorian Thomas

Fel y soniais i’n gynharach, roedd yna rwydwaith o dramleiniau yn cludo deunyddiau crai fel calchfaen i lawr i’r gamlas. Roedd y camlesi’n brysur iawn hyd at y 1850au pan adeiladwyd y rheilffyrdd. Prynodd y cwmnïau rheilffordd y camlesi ac annog masnach i ddefnyddio’r rheilffyrdd trwy godi mwy o dâl i gludo deunyddiau ar gamlesi. Yn sgil hynny, dirywio wnaeth y camlesi tan ganol y 1960au. Dyna pryd y dechreuodd gwaith adfer y gamlas hon fel rhan o’r Parc Cenedlaethol a’i hystyried fel adnodd gwerthfawr mewn ardal o harddwch naturiol.

Wrth gerdded yn ôl i Dal-y-bont, cymerwch ennyd i syllu ar ryfeddodau peirianyddol y pum loc gweithredol, y pontydd cerrig sy’n croesi’r gamlas, a phwll cydbwyso’r gamlas sy’n cynnwys bwrdd gwybodaeth ar hanes y gamlas. Yn y pen draw, byddwn yn cyrraedd Twnnel Ashford, twnnel 375 llath o hyd a dim ond 5 troedfedd 6 modfedd o uchder! Roedd y twnnel mor gul nes bod dynion yn cael eu cyflogi i ‘gamu’r’ cychod drwodd ar ôl gwahanu’r ceffylau a’u harwain o amgylch y twnnel. Unwaith eto, gallwch ddarllen am y twnnel hwn ar fwrdd gwybodaeth.

Yn ogystal ag ochr ddiwydiannol y gamlas, edrychwch am y bywyd gwyllt sydd bellach wedi ymgartrefu yn y cynefin hwn. A welwch chi Iâr Fach y Dŵr, y Bilidowcar, Glas y Dorlan neu unrhyw fywyd gwyllt arall ar eich taith yn ôl i Dal-y-bont?

Wrth i ni nesáu at Dal-y-bont, edrychwch am yr odynnau calch ar ochr arall y gamlas, sef y rheswm dros fodolaeth y gamlas a’r tramffyrdd. Yma, fe welwch fwrdd gwybodaeth arall a saif wrth ymyl enghraifft o drol tram, er mwyn i chi ddychmygu sut olwg oedd ar yr ardal yn anterth y Gymru ddiwydiannol!

Ar ôl camu ychydig ymhellach, byddwch chi’n cyrraedd Tal-y-bont, lle dowch o hyd i Dafarn y White Hart neu’r Star. Efallai yr hoffech chi ymweld â nhw am ddiod haeddiannol ar ôl cwblhau 14km neu 9 milltir o gerdded!

Am wybodaeth fanwl ynghylch yr heic hon, ewch i –

https://trigpointadventures.co.uk/brecon-beacons-walking-guides/

Yma hefyd, rhestrwyd teithiau eraill y gallwch chi roi cynnig arnynt tra byddwch yn yr ardal.

Dorian Thomas, Mai 2021
TrigPoint Adventures

——————————————————————————————————

Pan fyddwch chi allan yn cerdded, cofiwch ddilyn rheolau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiogel.

Rydym yn argymell defnyddio map OS o’r ardal ar y cyd â’r blog hwn. Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau

Brycheiniog arddel unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamwain neu anaf allai ddigwydd wrth ddilyn y llwybr hwn.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf