Yr Awyr Dywyll?
Cymeriad digon anghyson yw’r awyr. Dydw i erioed wedi bod yn fawr o artist, ond roeddwn i wrth fy modd yn chwarae gyda’r rhaglen Paint ar y cyfrifiadur yn yr ysgol gynradd. Yr awyr oedd wastad y peth hawsaf i’w ddylunio: naill ai’n las gyda’r haul yn tywynnu, neu’n ddu gyda’r sêr yn tywynnu. Ond rhywbryd wrth dyfu i fyny, daw rhywun i sylweddoli mai yn anaml iawn y bydd yr awyr yn gwbl las neu’n gwbl ddu. Mae’r awyr yn rhannu palet paent gyda’r enfys, ac yn fwy afluniaidd wrth daflu’r lliwiau ar y cynfas.
Roedd celfyddyd yr awyr ar ei orau un diwrnod tua diwedd mis Tachwedd y llynedd. Roeddwn i’n teithio i Aberhonddu i gwrdd ag ecolegwyr i fynd ar daith maes. Prin oeddwn i’n gallu gweld dim byd trwy’r niwl – testun pryder gan mai’r bwriad oedd cerdded safleoedd Waun Fignen Felen a’r Gribarth a thrafod ecosystemau’r corsydd o dan oruchwyliaeth Fan Gyhirych. Ond ger Pen-y-Fan roedd rhaid i mi stopio i dynnu llun o’r hyn oedd o’m blaen. Roeddwn i uwchben y niwl nawr. Roedd awyr o raddau amrywiol o las yn fframio’r mynyddoedd, ond arhosai’r dyffryn islaw’r A470 o dan orchudd llwyd trwchus. Roedd llyn o niwl hudol yn llenwi’r bwlch rhwng y mynyddoedd – cartref i greaduriaid arallfydol, efallai.
Mae’r awyr yn anghyson, ond eto’n gyson drawiadol. Y diwrnod hwnnw ces i fy hudo gan ddawns lwydwen y niwl, ond ar adegau eraill mae’r awyr wedi defnyddio lliwiau gwahanol i ennyn fy edmygedd. Rydw i wedi oedi ar y ffordd adref o’r gwaith i geisio dal campwaith orengoch ar gamera. Rydw i wedi stopio wrth gerdded strydoedd Y Fenni gyda’r hwyr i geisio cipio’r lleuad a dim byd ond y lleuad. Rydw i wedi stopio wrth gerdded yr un strydoedd i geisio cipio’r cymylau yn cofleidio’r lleuad. Ychydig o funudau yn unig sydd i’r broses. Rwy’n sylwi, weithiau’n tynnu llun, cyn bwrw ymlaen â’m diwrnod/noson – ac anghofio. Byr yw’r gwerthfawrogiad.
Ond wrth gofnodi gwedd yr awyr ar fy ffôn, rwy’n cymryd rhan mewn traddodiad anrhydeddus. Gweithio fel hanesydd y Gymru ganoloesol fydda i o ddydd i ddydd, ac yn ddiweddar rydw i wedi sylwi mwy a mwy ar dueddiad croniclau’r Oesoedd Canol i edrych tua’r lloer. Testunau yw’r rhain sy’n cofnodi digwyddiadau ‘pwysig’ bob blwyddyn – brwydrau a marwolaethau brenhinoedd fel arfer. Ond weithiau, hefyd, ddigwyddiadau naturiol: daeargrynfeydd, llifogydd… a beth sy’n mynd ymlaen yn yr awyr. Felly, yn ôl y Cronicl Hen Saesneg, fe wnaeth sêr ddisgyn o’r awyr yn 1095. Yn 1110, roedd yr awyr yn arbennig o glir trwy’r nos, a’r sêr yn arbennig o ddisglair. Ac ar noswyl gŵyl Mihangel yn 1098, ymddangosai’r awyr fel petai ar dân trwy’r nos – gallwn ddychmygu bod y lliwiau a welodd y croniclwyr yn debyg i’r lliwiau a welais i ar y ffordd nôl o’r gwaith yn 2023.
Doedd y croniclwyr canoloesol hyn ddim yn wylwyr sêr difater chwaith. Gallai’r awyr broffwydo newidiadau tyngedfennol ar y ddaear; yn ei newid gwedd roedd straeon am farwolaeth brenhinoedd a chwymp teyrnasoedd. Felly, ar gyfer y flwyddyn 927, mae’r Cronicl Hen Saesneg yn nodi: ‘yn y flwyddyn honno ymddangosodd goleuadau tanllyd yng ngogledd yr awyr.’ Roedd 927 yn flwyddyn a hanner! Dyma’r flwyddyn pan ffurfiwyd Lloegr a newidiwyd cyfansoddiad gwleidyddol Prydain am byth. Â’r cronicl ymlaen i nodi bod Sihtric, brenin Llychlynwyr gogledd Lloegr, wedi marw a bod Aethelstan, brenin y Saeson, wedi cymryd ei goron. Aethelstan oedd brenin cyntaf Lloegr, ond roedd e hefyd cymaint yn fwy na hynny. Roedd e’n ymerawdwr, a phob un o frenhinoedd Prydain yn plygu glin iddo. Yn 927 hefyd, yn ôl y Cronicl Hen Saesneg, teithiodd y brenhinoedd hyn i Eamont yng ngogledd Lloegr i dyngu llw o ffyddlondeb i’r ymerawdwr pwerus. Pwy oedd yn eu mysg ond Hywel Dda.
Yn 927, roedd newid yn yr awyr – yn llythrennol. Roedd brenhinoedd yn marw, brenhinoedd eraill yn codi yn eu lle, teyrnasoedd ac ymerodraethau yn cael eu ffurfio. I’r croniclwyr canoloesol, roedd cysylltiad amlwg rhwng y datblygiadau hyn a’r goleuadau tanllyd yn yr awyr.
Mae cymaint yn haws edrych i’r sêr heddiw. Doedd gan y croniclwyr ddim telesgop. Ond debyg y byddai goleuadau tanllyd wedi bod yn fwy amlwg yn 927 nag yn 2023. Yn 927, doedd dim ceir i dorri ar draws y llun perffaith o’r lleuad. Nac ychwaith golau ffonau symudol i darfu ar y duwch. Doeddwn i ddim wir wedi ystyried goblygiadau ymarferol hyn tan i mi fynychu cynhadledd ar archaeoleg canoloesol yn ddiweddar. Ymysg y trafodaethau diddorol roedd ystyriaeth o ymgynullfannau yn y Gymru ganoloesol. Cyn y Senedd ym Mae Caerdydd, cyn adeiladau cyngor trefi, dinasoedd a siroedd, ym mhle roedd cymunedau yn cwrdd i drafod a gweinyddu’r gyfraith?
Wrth drafod safleoedd posib, ystyriaeth bwysig oedd y pellter y gallai pobl deithio yn yr Oesoedd Canol. A fydden nhw wedi gallu cerdded yno a dychwelyd yn ddiogel mewn un diwrnod? Oherwydd cerdded fyddai raid. Debyg byddai rhai o statws uchel wedi meddu ar geffyl – gallwn ddychmygu bod Hywel Dda wedi marchogaeth i Eamont i gwrdd ag Aethelstan. Ond i’r rhan fwyaf, byddai’r daith yn un araf. Ac yn arafach fyth yn dibynnu ar y tirwedd. Bues i am dro o Drecastell i Fynydd Myddfai ychydig o benwythnosau yn ôl, a digon braf oedd dilyn yr heol Rufeinig mwy neu lai yr holl ffordd i ben y daith. Ond doedd y Rhufeiniaid ddim yn gallu gwneud dim am dirwedd fynyddig Brycheiniog, a byddai hyd yn oed eu heolydd syth yn heriol i’w cerdded yn y tywyllwch. Heol Rufeinig arall sy’n rhedeg ar hyd Allt yr Esgair wedi’r cyfan – ond byddwn i yn sicr ddim yn argymell crwydro yno yn y tywyllwch.
Ers 2013, mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog statws Gwarchodfa Awyr Dywyll. Ar y tudalen gwe sy’n hysbysu dathlu degawd ers y dyfarniad, mae llun o unigolyn yn gwylio’r sêr ger Llyn Syfaddan. Tafliad carreg o’r lan, mae yna ynys enwog iawn. Coed sydd yno nawr, ond dros fil o flynyddoedd yn ôl byddai wedi bod yn lys i frenin Brycheiniog. Efallai byddai cymaint â thri deg o bobl wedi byw yno ar un adeg. Tybed a oedden nhw’n syllu i’r awyr gyda’r hwyr? A beth oedd yno i’w weld?