Skip to main content

YR AWYR DYWYLL

Gan Owen Thomas (Awdur Preswyl Saesneg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 2023)

Rydw i wedi cael fy swyno gan y nos ers i mi gofio. Fel plentyn, byddwn yn mwynhau’r adegau pan ddylwn i fod yn y gwely ond roeddwn yn dal ar fy nhraed am ryw reswm. Yng nghefn y car ar fy ffordd o dy fy niweddar Hen Fam-gu byddwn yn syllu trwy ffenest y car nes i rythm y radio a sŵn y ffordd fy hudo i gysgu. Fel llanc yn fy arddegau treuliais nosweithiau di ri uwchben Llyswen gyda fy ffrindiau gorau yn y byd. Byddem yn sgwrsio a chwerthin a syllu ar y sêr nes i wreichion cyntaf y diwrnod nesaf ymddangos. Roedd byd yr oedolion yn cysgu oddi tanom, a ni oedd piau’r byd. Anghofiais i ‘rioed am hyn.

Fe’m magwyd ar fferm filltir o bentref Bronllys. Oherwydd hyn, treuliais lawer i noson yn fy ieuenctid yn cerdded neu seiclo yn yr oriau man ar hyd lôn fferm y gallwn deithio ar ei hyd gyda fy llygaid ar gau. Cofiaf yn glir y noson y pesychodd dafad mewn cae gerllaw, gan wneud i mi sgrechian yn uchel. Yn aml byddwn yn crefu bron ar i ysbryd ymddangos, a sefyll o fy mlaen yng ngolau’r lloer. Byddwn yn dychmygu’r bobl oedd wedi cerdded y llwybr filoedd o flynyddoedd cyn fi ,a fyddai nawr yn cerdded gyda mi rhwng gwyll a gwawr.

Gellir olrhain fy nghariad at y nos i ddwy foment dyngedfennol o ddau lyfr o fy mhlentyndod. Yr olygfa yn ‘Danny, the Champion of the World’ pan mae’r arwr ifanc yn mynd allan i’r nos mewn car i chwilio am ei dad, a’r foment pan fo Watson yn gweld Barrymore yn nodi gyda channwyll olau egwan yn symud ar y rhos yn ‘The Hound of the Baskervilles.’ Mae’r rhain wedi serio ar fy nychymyg. Yr anhysbys. Y posibilrwydd o antur. Y teimlad eich bod yn ymyrryd ar fyd sy’n perthyn i lwynogod, tylluanod, gwrachod a lladron pen ffordd.

Mae’r nos yn digwydd bob nos, ond eto mae rhywbeth yn digwydd i ni yn ystod y dydd sy’n gwneud i ni anghofio pa mor rhyfedd a hyfryd ydi o. Y tywyllwch yn cau o’n hamgylch yn raddol. Y cyfarwydd yn troi’n anghyfarwydd. Mae maint y byd uwchben yn amlygu pa mor fach ydym.

Mae golau wedi ymddangos fwyfwy yn fy mywyd. Goleuni bythol presennol y ffon symudol wrth erchwyn y gwely, a’i fflwrolau parhaus yn difetha’r tywyllwch cysurus. Rydyn ni angen y nos. Rydyn ni angen yr hoe sy’n dod gydag ef. Rydyn ni angen llonyddwch a thawelwch.

Mae dydd Gwener yn nodi 10 mlynedd ers i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ennill ei statws fel Gwarchodfa Awyr Dywyll. Rhwng 7.30pm a 8.30pm beth am ddiffodd pob golau sydd ddim yn angenrheidiol a chamu i’r tywyllwch. Efallai bod amser maith ers i chi syllu ar awyr y nos. Os yw hi’n glir uwchben byddwch yn dyst i’r canopi sydd wedi swyno pawb erioed. Does dim i’w ofni am y nos. Gall fod y foment pan fo’r Ddaear ar ei gorau.

Ar hyn o bryd rydw i’n ysgrifennu drama newydd yn fy rôl fel Awdur Preswyl ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fel gyda llawer o fy ngwaith, mae’r nos wedi llwyddo i ymddangos heb sylw.

Mae detholiad bychan isod.

Gobeithio y gwnewch chi ei fwynhau.

Owen

 

 

 

Y LLIDIART

Detholiad

Mae Wyndham, yn ffermwr yn ei 70au cynnar, a Josie yn fyfyrwraig yn ei harddegau hwyr, yn pwyso ar lidiart. Tu ôl iddynt, mae golygfa o Fannau Brycheiniog yn ymestyn ar fore hyfryd o Hydref.

Uwchben yn rhywle mae barcud yn sgrechian o bryd i’w gilydd.

WYNDHAM: Y nos yw’r amser gorau i weld yr awyr Josie. Mae llygredd golau yn y ddinas. Mae goleuadau stryd a cheir yn gwneud y sêr yn llai llachar, ond yma does dim. A heno, ar noson glir yn yr Hydref, mae lleuad yr Heliwr yn codi. Cymer funud i edrych. Dim ffon. Ti’n addo?

JOSIE: Dwi’n addo.

WYNDHAM: Sylla yn ddwfn i’r nos. Fesul un, byddant yn ymddangos. Y cytser sydd wedi tywynnu uwchben pawb sydd wedi byw a marw erioed. Bydd y sêr a swynodd Shakespeare yn canu eu can yn glir.

JOSIE: Dwi wastad wedi caru’r sêr.

WYNDHAM: Bu farw rhai o’r sêr ti’n eu gweld amser maith yn ôl. Rydym yn dyst i atsain, o foment a rhywbeth sydd yn farw sy’n byw ymlaen. Rhywbeth oedd yn fyw mewn amser na allwn ei amgyffred. Mae nawr yn rhan o’r cosmos. Mae pawb yn byw ymlaen mewn rhyw ffordd. Mae eu goleuni yn aros am oes.

Saib

JOSIE: Rydych chi’n gweld eisiau eich gwraig….

Saib

WYNDHAM: Ydw.

Saib

WYNDHAM: Dwi’n gweld ei heisiau fwy nag allwn i ddychmygu.

Saib

WYNDHAM: Roedd hi’n caru’r sêr. Heddwch y nos. Roedd hi’n arfer mynd allan bob nos yn ddi-ffael, cyn troi am y gwely. Cymryd eiliad fach. Glaw neu hindda, byddai’n edrych fyny. Byddai yn ei helpu i gysgu. Ac weithiau pan mae’r boen o’i cholli bron a fy llethu, dwi’n gwneud yr un peth. Ac mewn ffordd, mae hi’n dod ‘nôl. Dwi’n ei gweld hi yna ar y buarth.

JOSIE: Ydych chi’n breuddwydio amdani?

WYNDHAM: Ydw. Dwi’n edrych ymlaen at fynd i’r gwely’r dyddiau hyn. Mae mynd i’r gwely fel gwylio hen ffilmiau. Dwi’n ei gweld hi fel roedd hi, y fferm fel oedd hi, y plant fel redden nhw. Dwi’n gweld y gorffennol. Mae’n tywynnu unwaith eto.

JOSIE: …fel y sêr sydd wedi marw.

WYNDHAM: Fel sêr sydd wedi hen farw.


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf