YR OLYGFA TRWY’R GÂT
Mae tystiolaeth yn dangos y gallwn ni oll wella’n iechyd meddwl a’n llesiant corfforol. Gallwn gydgysylltu ag eraill, bod yn gorfforol heini, ddysgu sgiliau newydd, rhoi i eraill a byw yn y funud.
Dyma restr o resymau pam y gallech ddyfod yn warden gwirfoddol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rôl sydd yn cynnig nifer o gyfleoedd diddorol i unrhyw un, hyd yn oed i’r rheini sydd â bach iawn o amser i’w roi. Gall tasgau gynnwys torri llystyfiant, gosod gatiau ac arwyddion newydd, adeiladu pontydd, diogelu ardaloedd mawnog neu glirio llwybrau cerdded. Bydd offer a hyfforddiant yn cael eu darparu.
Disgwylir i bob warden gwirfoddol rannu’r un angerdd am weithio yn yr awyr agored i ddiogelu a gwella prydferthwch naturiol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ond nid oes y fath beth â gwirfoddolwr ‘cyffredin.’ Er enghraifft, mae gwirfoddolwyr sydd yn gweithio â’r tîm sydd wedi ei leoli yn Aberhonddu yn cynnwys Rob, cyn arholwr gyrru o Swydd Surrey, Lorna sydd yn ymchwilydd llawrydd o Fryste, Mark sydd yn gyn-reolwr ariannol o Swydd Gaint ac Andy, cyn swyddog yn yr Awyrlu o Lerpwl.
Mae’r lleoliadau prydferth yn darparu cefnlen ysbrydoledig a chyfnewidiol i’n tasgau ond y bobl; y gwirfoddolwyr, staff, y tirfeddianwyr a’r ymwelwyr sydd wir yn darparu’r lliw a’r cyd-destun i ni. Er gwaethaf ein cefndiroedd gwahanol, mae pob un ohonom yn rhannu’r un diddordeb mewn natur ac am wella’r amgylchedd i bawb. O dan gyfarwyddyd Wardeniaid yr Ardal, Nick a Gareth, rydym wrth ein bodd â’r sgyrsiau amrywiol, y tynnu coes a hyd yn oed casgliad Gareth o jôcs gwael sydd yn gymorth i wneud pob tasg yn bleserus, beth bynnag bo’r tywydd. Daw ysbrydoliaeth hefyd ar ffyrdd y cacennau cartref (gwnewch gais am rysetiau,) yr ydym yn eu mwynhau yn ystod pob egwyl y byddwn fel arfer yn eu cael ger gât (os yw’r tywydd yn deg) gan y bydd gât yn fframio llun prydferth o’r dirwedd.
Mae’r ‘olygfa trwy’r gât’ yn drosiad o’r olygfa, agos a chyfnewidiol y cawn ni fel wardeniaid gwirfoddol pan fyddwn yn cydweithio’n agos â staff mewn amrywiaeth eang o leoliadau prydferth trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn mwynhau cydgysylltu ag eneidiau hoff cytûn, rhannu tasgau corfforol yn yr awyr agored, dysgu sgiliau newydd a chreu profiadau newydd a rhoi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd sydd yn cynnig cymaint o hwyl i ni. Gallwn ganolbwyntio ar y funud ac anghofio am bryderon bywyd am gyfnod. Mae’r rhain yn amcanion mae cymaint ohonom yn eu deisyfu ac mae bod yn warden gwirfoddol â Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn caniatáu i ni eu cyflawni a llawer iawn mwy. Mae blasu cacennau ar yr un pryd yn fantais arall. Pa mor wych all hynny fod?