Gyflafan Dydd Nadolig
Y rhai sydd ddim yn deall
Mae yna rai sydd ddim yn deall, rhai sydd ddim hyd yn oed yn ceisio deall. Pobl sydd yn gwrando ar gelwyddgwn ac enllibwyr ac yn defnyddio eu geiriau am nad oes ganddynt eiriau eu hunain. Pobl sy’n lledaenu celwyddau amdanaf i, yn fy ENLLIBIO i ond yn deall dim byd. Dim ond yn beio. Annifyr. Does dim un ohonynt yn deall yr hyn a wnes i drostynt, dim un yn ceisio gweld y llun cyflawn. Mae fy strategaethau i wedi bod yn llwyddiannus, yn arbennig o lwyddiannus, does neb wedi gwneud cymaint â fi i’r ardal yma. Dwi’n ffrind i’r ardal yma. Mae pawb yn gwybod hynny. Cyn i mi gyrraedd roedd Arglwyddi’r Mers yn cael eu sathru o dan draed. Dwi’n delio gyda llofruddwyr ffiaidd, erchyll, ofnadwy. Terfysgwyr, dim mwy na dim llai. A dydy pobl ddim yn deall! Roeddent am i mi wahodd y llwfrgwn yma i fy nhŷ a gadael iddynt wledda wrth fy mwrdd ac yfed o fy nghwpan, am ei bod hi’n Nadolig? Dwi ddim yn deall. Ac oedden nhw’n disgwyl i mi agor y drws i’r gwehilion yna unwaith iddyn nhw orffen manteisio ar fy nghroeso?
Rhoi eu harfau nhw’n ôl ac aros iddyn nhw ddychwelyd i ymosod eto? Annoeth. Twp. Pam dylwn i?
Beth am atgoffa’n hunain o gymeriad y bobl yma. Seisyll ap Dyfnwal - dim mwy na lleidr pen ffordd. Tywysog? Ha! Tydi o ddim yn dywysog, dwi’n adnabod tywysogion. Dwi’n adnabod sawl un â gwaed glas. POBL BWYSIG. Doedd Seisyll yn ddim byd. Ei griw o yn ddim ond lladron a gwylliaid. Bu’n aflonyddu’r heddwch yn nyddiau Harri Fitzmiles, trwy gydol yr 1160au, trwy’r amser, yn y dull dan din yna mae terfysgwyr yn hoff o ddefnyddio. Roedd f ’ewythr Harri’n ddyn da, dyn da iawn. Ond doedd o ddim digon cadarn. Doedd ei gledd ddim digon cyflym, ei droed ddim digon trwm. Mi gollodd am ei fod am drin y llofruddwyr yma fel bonheddwyr, yn gwastraffu amser yn llunio cytundebau â’r gwehilion yma. Cafodd pob un ei dorri cyn i’r inc sychu, a pwy sy’n synnu wedyn o weld y cyllyll hirion yn llithro allan drachefn. Mi yrrodd Seisyll un trwy gefn Harri yn y pen draw. Ffiaidd. Ac mae pobl am i mi fod yr un fath? Efallai fod Seisyll hirgyllell wedi disgwyl un arall tebyg i f ’ewythr i gymryd yr awenau, cadach arall i sychu’r gwaed o’i ddwylo. Bechod. Fi gafodd y castell yn hytrach, lle braf ar yr afon, ond angen gwaith, mynd a’i ben iddo.
Adnewyddu’r muriau
Dw i wastad wedi bod yn un am waith. Y peth cyntaf oedd adnewyddu’r muriau. Codi’r trethi fel bod y Cymry’n talu amdanynt. Ei wneud o’n iawn. Mi sylwodd y Goron yn syth fod ’na rhywun call yn rhedeg y sioe o’r diwedd. Mae John wedi bod yn gefnogol dros ben. DYN ARBENNIG. Brenin doeth. Mae o wastad wedi fy nghefnogi. Ac mi oedd yn gefnogol wrth i mi ddechrau MUDIAD i Adfer y Goron. Wnes i wella’n gallu milwrol yn enfawr, torri’r coed a sychu’r corsydd fel nad oedd gan y terfysgwyr unrhyw le i guddio. Gwneud yn saff fod gan y milwyr gyfarpar priodol, ac yn gwybod sut i’w defnyddio. Mae gen i arweinwyr da iawn yn eu mysg. Dynion da. Dynion ffyddlon. Ac mi wnes i hyn i gyd wrth wario LLAI O LAWER nag oedd Ewythr Harri yn ei wario heb gyflawni dim.
Er gwaethaf y celwyddau amdana’i gan bennau bach roedd castell y Fenni yn gadarnle yn y Mers o fewn cant o ddyddiau. Mi ddes i â gwareiddiad i’r Fenni!
Roedd pobl yn dechrau deall. Petai’r llwfrgi Seisyll wedi edrych, ac wedi gweld ein milwyr a’n muriau ni, efallai byddai wedi dechrau pryderu. Efallai byddai wedi sylwi fod dim diben iddo frwydro yn erbyn y mudiad. Roedd o wedi llwyddo i lofruddio dyn oedd eisiau heddwch, ddim yn anodd, ond roedd yn awr yn wynebu meddwl strategol arbennig. Mi ddylai fod wedi rhagweld y bydda’i groen o ar y pared. Wnes i ddim gwastraffu amser yn pryderu am adeiladu heddwch. Wedi’r cyfan, wnaeth y terfysgwyr erioed ddod atom ni i drafod cydweithio naddo?
Wnaeth unrhyw un ohonynt feddwl y gallent ymuno â’r mudiad yn hytrach na cheisio’i arafu? Naddo. Dim ond eistedd o gwmpas eu tanau bychain ar y bryniau gwlyb yn trafod sut fydda’i orau i faglu cynnydd. TRIST.
Dynion arbennig, pob un yn wladgarwr
Ond doeddwn i ddim am gwrdd ar eu hamodau nhw, ar eu tir nhw. Rhy hawdd iddynt ymosod, bradychu. Mi fyddai wedi bod yn beryglus. Twp. Felly mi ymgynghorais â chriw o ddynion, dynion arbennig, pob un yn wladgarwr, i drafod sut y gallwn ni reoli’r llwfrgwn yn effeithlon ac yn ddidrafferth. Rheoli’r terfysgwyr ac Adfer y Fenni a’r Goron. Un amcan oedd gen i, syml - Diddymu’r Perygl o Derfysg. Fel rhan o’r cynllun gofynnais i fy nghyfarwyddwyr drefnu Cynllun Gweithredu, fyddai’n barod erbyn dydd cyntaf y flwyddyn newydd. A dweud y gwir roeddem yn barod i weithredu cyn hynny. Effeithlonrwydd, mae’n bwysig. Roeddem yn barod erbyn Dydd Nadolig 1175.
Roeddwn yn gwybod mai NI ddylai ddewis maes y gad, mai NI ddylai reoli’r telerau. Ac i wneud hynny’n effeithlon rhaid oedd gwahanu’r terfysgwyr rhag eu harfau. Syml. Mor bwysig. Sawl un yn anghofio hynny. Rhaid amddiffyn y bobl gyffredin rhag gweithredoedd y terfysgwyr hyn, a rhaid amddiffyn yn gyflym ac yn ddidostur. Felly gwahoddais y llofrudd Seisyll a’i fab Sieffre, a phob un o’i ddilynwyr swta ym Mhowys, yma am wledd. Addewais gadoediad, wrth gwrs, dywedais y byddent yn cael cyfle i drafod telerau mewn heddwch. Roedden nhw’n honni eu bod yn awchu am heddwch hefyd, ond roedden nhw’n gelwyddgwn. Allwn ni ddim delio gyda therfysgwyr. Yn y pen draw bu fy nghynllun yn llwyddiannus, roedd Seisyll yn ddigon haerllug i dderbyn gwahoddiad i wledda, i yfed medd o gwpan dyn oedd â’i waed hyd eu dwylo. Annifyr. Greddfau gwael.
Eu croesawu i’r castell
Fi yn bersonol wnaeth eu croesawu i’r castell, a sicrhau bod eu harfau oll yn cael eu diosg a’u rhoi dan glo. Cafodd y gweision oll a’u meirch eu bwydo a dechreuwyd y wledd. Gwledd benigamp. Gwych, arbennig. Gwyddau, ceirw, baedd. Anhygoel. Fi yw’r gorau am gynnal gwledd, mae pawb yn gwybod. Ond petawn i fy hun yn eistedd ar fainc dyn a fu farw o’m hachos i fyddwn i ddim wedi bwyta cymaint fel nad oeddwn yn gallu symud, fyddwn i heb yfed cymaint o gwrw a medd a wnaeth Seisyll lwfrgi a’i wŷr, er gwaethaf ei bod hi’n ddydd Nadolig. Arweinyddiaeth wael. Twp.
Roedd o wedi yfed gymaint, dyn dwl, i ddechrau traethu am heddwch a dyngarwch. Yr eiliad honno y clowyd y pyrth a daeth fy ngwŷr i o’r cysgodion. Roedd y terfysgwyr yn ffyrnig, ffiaidd. Maen nhw’n beryglus. Dyna pam fod fy ngwŷr mewn arfwisg lawn. Mae gen i’r adnoddau, y rhagweledigaeth. Roeddwn yn gwybod fod y brenhinyn bach a’i griw yn bobl dreisgar. Ofnadwy. Cafodd pob un flasu cyfiawnder.Roedd yn ddoniol eu gweld nhw. Heb eu harfau ac yn feddw gaib. Diffyg disgyblaeth.
Dim un yn gwybod sut i ymateb! Arweinyddiaeth ofnadwy. Mor fuan ar ôl ein trin ni mor ddirmygus. Amharchus. Doedd gan ein gwŷr ni ddim gwendid o’r fath, roedd pob un wedi’i hyfforddi’n dda. Gwladgarwyr. Mae’n gwneud gwahaniaeth. Ni oedd yn fuddugol, buddugoliaeth o bwys. Pan fydd dyn yn canfod nyth o nadroedd duon, does dim diben dangos tosturi. Ychydig wedyn mi gafwyd mab saith oed Seisyll, Cadwaladr, yn ein rhwyd hefyd. Mi flasodd yr un cyfiawnder â’i dad. Allwn i ddim caniatáu gwendid.
Diffyg ymwybyddiaeth
Ond o ganlyniad i glebran gwag a diffyg ymwybyddiaeth mae pobl yn dweud pethau ofnadwy. Anhygoel. Newyddion ffug. Chafodd y fuddugoliaeth ddim croeso teilwng yn y llys. Mae’n anhygoel pa mor genfigennus all rhai pobl fod. Dynion pitw yn sibrwd yng nghlust y brenin. Ces fy symud i’r Henffordd o’r herwydd. Twp. Ond fy strategaeth i oedd yn gywir, mae gen i dystiolaeth - fy mab Gwilym oedd yn gyfrifol am y Fenni ar f’ôl i. Wnaeth o ddim dilyn fy strategaeth. Annoeth. Cipiwyd y castell gan y gwehilion Cymry yn 1182, ac mi gymerwyd Gwilym a’i wraig fel carcharorion. Fyddai hynny heb ddigwydd petai wedi gwrando arna’ i. Camgymeriad mawr. Twp. Fi yw Gwilym Brewys, myfi oedd awdur Buddugoliaeth y Nadolig 1175 yng Nghastell y Fenni.
Sut i ail-greu’r chwedl hon:Bydd ymweliad â Chastell y Fenni yn ddigon i ail-greu naws y chwedl, a bydd y dirwedd o’ch cwmpas yn dod â hi’n fyw yn eich meddwl.
Dylech ymweld ag Amgueddfa’r Fenni o fewn y muriau, gan adael digon o amser i chwarae neu gael picnic ar y lawntiau. Wedyn gallwch ymweld â’r ysgubor ddegwm i ddysgu am hanes Y Fenni, neu fynd i Eglwys y Santes Fair, sydd wedi cael ei disgrifio fel “Abaty Westminster” Cymru.