Skip to main content

Castell ac Amgueddfa’r Fenni

Dyma ddau atyniad mewn un, a gallwch eu mwynhau mewn un diwrnod. Mae Amgueddfa'r Fenni wedi cael ei gosod ar dir adfail Castell Normanaidd, a gallwch fwynhau picnic yn ystod yr haf a mynd am dro bach chwim ar ddyddiau oerach.

Er bod y castell gwreiddiol erbyn hyn yn adfeilion i raddau, mae yna ddarn tal o lenfur ar y dde o’r hyn a fyddai wedi bod yn borthdy, yn wreiddiol o’r 12fed ganrif.

Mae'r amgueddfa wedi'i lleoli mewn hen borthdy hela o'r 19eg ganrif, a adeiladwyd gan Ardalydd y Fenni o fewn waliau'r castell. Mae gan yr amgueddfa bump o arddangosfeydd parhaol sy'n adrodd hanes y dref farchnad hanesyddol o'r cyfnod cynhanes hyd at y diwrnod presennol.

Amserlen Deithio Bosib
11.00am Cyrraedd a mynd ar daith o gwmpas yr amgueddfa.
11.45am Taith o gwmpas dolydd y Castell.
1-2pm Mwynhau picnic ar y dolydd neu gael cinio yn y Fenni.
2pm Taith hamddenol o gwmpas tref farchnad y Fenni (*Dydd Mawrth yw diwrnod marchnad).
4pm Ei throi hi am adref.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf