Skip to main content

Teithio Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu o Lanfa Goetre

Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yw un o'r camlesi mwyaf arbennig ac ysblennydd yn y DU. Mae’r llwybr yn ymdroelli am dros 50km rhwng Aberhonddu a Chwmbrân ac mae ganddo olygfeydd da dros diroedd fferm, coetiroedd a mynyddoedd ac mae'n gartref i amrywiaeth eang o fflora a ffawna.

Mae Glanfa Goetre yn hen safle treftadaeth diwydiannol 200 mlwydd oed sydd bellach yn cynnwys canolfan ymwelwyr prysur a marina. Mae gan y ganolfan ddigon i'w gynnig gan gynnwys arddangosfeydd a digwyddiadau, teithiau camlas a gweithgareddau plant. Mae gan yr ardal o amgylch y ganolfan deithiau cerdded ar ochr y gamlas a’r coetir, llawer o fywyd gwyllt a gwybodaeth am hanes yr odynau calch.
Gallwch logi cwch trydan bach neu ganŵ neu archebu taith grŵp ar fwrdd cwch camlas draddodiadol. Mae morio ar y gamlas ar gyfer y rhai sydd ddim mewn unrhyw frys i fynd i unrhyw le. Ar ôl cyfnod o hyfforddiant, gallwch setlo ar gyflymder uchaf cyfforddus o ddim ond 4 milltir yr awr wrth i chi lithro drwy'r dyfroedd tawel.

Amserlen Bosib

10.00 Cyrraedd ac arwyddo i mewn ar gyfer llogi cwch a sesiwn briffio.
10.00 Cyrraedd ac arwyddo i mewn ar gyfer llogi cwch a sesiwn briffio.
12.15 Cinio Picnic ar ôl angori’r cwch.
13.15 Dychwelyd.
15.00 Dychwelyd y cwch ac archwilio’r marina a’r odynau calch.
6.00 Te Prynhawn yn y Waterside Rest .

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf