Skip to main content

Seiclo Llwybr Taith Taf o Aberhonddu i Loc Brynich

Mae yna lawer o lwybrau beicio gwahanol ar gyfer pobl o bob oed a gallu ym Mannau Brycheiniog.

Gallwch ddod â'ch beic eich hun, efallai drwy ddefnyddio ôl-gerbyd Bws y Bannau neu logi un yn lleol. Mae rhai cwmnïau lleol hyd yn oed yn mynd â chi a'ch beiciau i bwyntiau cychwyn gwahanol ar draws y Parc. Mae tref Aberhonddu (ychydig i'r gogledd o Fannau Brycheiniog eu hunain) yn ganolbwynt delfrydol gan ei fod yn ffurfio man cychwyn 3 llwybr i ddechreuwyr, ac i feicwyr mynydd mwy profiadol.

Taith Taf i Loc Brynich - Mae’r daith ddi-draffig yma o Lwybr Taf, yn cychwyn o'r maes parcio ym Masn Camlas Aberhonddu ac yn dilyn y llwybr o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu am 3 milltir hawdd i lawr at y loc cyntaf yn Brynich. Edrychwch allan am y cerflun maint llawn o ddyn gyda'i geffyl sy’n tynnu tram, sy'n darlunio hanes y rhan hon o'r gamlas. Mwynhewch edrych allan am adar dŵr fel hwyaid, crëyr glas a glas y dorlan wrth i chi deithio ar hyd ochr y gamlas. Yn Brynich efallai y byddwch yn cael y cyfle i weld cychod cul yn symud i heriau’r loc bach. Mae byrddau picnic ar ochr y loc a cheir rhai ychwanegol ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd ar yr ochr arall i'r lôn. Wrth edrych i lawr yr afon o'r bont gallwch weld traphont Brynich yn croesi afon Wysg.


Sample Itinerary

11.00 Arrive in Brecon - unload or collect hire bikes.
11.15 - 11.45 Explore the visitor welcome point at Brecon Canal Basin.
11.45 - 12.15 Cycle the Taff Trail to Brynich Lock.
12.15 - 13.00 Picnic lunch at Brynich Lock or return to Brecon.
14.00 Further exploration of Brecon Town.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf