Skip to main content

Y Mynyddoedd Duon: Castell Dinas a’r Clwb Gleidio

Anelwch at y sêr gyda’r amserlen hon - a mwynhau taith gerdded i’r adfeilion castell uchaf yng Nghymru, yna treulio’r prynhawn yn gwylio peilotiaid medrus Clwb Gleidio'r Mynyddoedd Du yn hedfan yn uchel ar hyd cribau'r mynyddoedd.

Dechreuwch y dydd trwy yrru i'r maes parcio o dafarn y Castell yn Pengenffordd ar yr A479 rhwng Talgarth a Chrucywel, lle gallwch adael eich car. Gadewch y maes parcio ar ochr Talgarth, yn agos at y bwrdd gwybodaeth, a dilyn y llwybr i fyny i Gastell Dinas yn uchel ar y grib uwchben. Bryn o’r Oes Haearn oedd y safle’n wreiddiol, ac fe adeiladwyd Castell Normanaidd caerog yn ddiweddarach ar y safle. Er bod y gweddillion yn dadfeilio erbyn hyn - mae'r golygfeydd i mewn i'r Mynyddoedd Du a thros Dalgarth tuag at Fannau Brycheiniog yn sicr wedi parhau i fod yr un mor dda!
Hanglider soaring over the mountains
Bydd y daith yn cymryd tuag awr ar gyfer person o ffitrwydd canolig ac mae yna rywfaint o deithiau cerdded gwych y gallwch eu gwneud o Gastell Dinas os ydych chi eisiau mynd ychydig ymhellach.

Os byddwch yn ymweld ar y penwythnos - gallwch gael cinio yn nhafarn y Castell. Neu ewch â phicnic, neu ddychwelyd i Dalgarth i gael cinio.

Ar ôl cinio ewch i ymweld â Chlwb Gleidio’r Mynyddoedd Du, sydd 970 troedfedd uwchben lefel y môr - dywedir mai dyma’r clwb gleidio crib a thon gorau yn y DU. Ac mae'n hynod ddiddorol i wylio'r gleidwyr yn cael eu tynnu i fyny ac yna’u rhyddhau i esgyn gyda'r adar. Gallai'r rhai dewr yn eich plith gynllunio ac archebu sesiwn flasu a chael y profiad llawn!

 

Amserlen Bosib

11.00-1 Taith Gerdded tuag at Gastell Dinas a mwynhau'r golygfeydd fel gwobr am eich llafur.
1-2 Naill ai cinio yn Nhafarn y Castell, Pengenffordd neu ddychwelyd i Dalgarth i gael cinio.
2-4 Ewch i Glwb Gleidio’r Mynyddoedd Du a naill ai gwylio’r campau yn y fan honno drwy’r prynhawn - neu os ydych chi wedi archebu ymlaen llaw, cewch gyfle i fwynhau sesiwn flasu!

Ble mae e?

Tafarn y Castell, Pengenffordd, ger Talgarth LD3 0EP www.brecon-beaconsaccommodation.co.uk
Ffôn: 01874 711353 Mae wedi ei lleoli ar yr A479 rhwng Talgarth a Chrucywel. Mae'r maes parcio ar yr ochr chwith. Codir £1 am barcio, yn daladwy i’r dafarn. Mae'r holl arian parcio yn cael eu rhoi i elusen.

Castell Dinas  -- OS179301 - mae yna lwybr troed yn arwain o'r maes parcio yn nhafarn y Castell. Argymhellir mynd a map OS.

Clwb Gleidio’r Mynyddoedd Dub, y maes awyr, Talgarth LD3 0EJ www.blackmountainsglidingclub.co.uk ffôn: 01874 711463 Mae wedi ei arwyddo oddi ar yr A479 ar yr ochr chwith rhwng Talgarth a Chrucywel.

Cyfleusterau a Mynediad

Tafarn y Castell
Oriau agor
Dydd Mercher, Iau, Gwener 6:00-23:00
Dydd Sadwrn 12:00-12:00
Dydd Sul 12:00-10:30pm.
Caiff bwyd ei weini rhwng 12 a 2.00 a 18:00-21:00 ar y dyddiau y mae’r dafarn ar agor. Mae’r bwyty a thoiledau ar y llawr gwaelod, ond nid ydynt wedi eu haddasu yn arbennig ar gyfer mynediad i'r anabl.

Cewch fynediad i Gastell Dinas drwy lwybr troed serth a does dim cyfleusterau.

Mae Clwb Gleidio’r Mynyddoedd Du bar agor drwy'r wythnos rhwng diwedd mis Mawrth a Hydref a Phenwythnosau yn unig Tachwedd i ddiwedd mis Mawrth. Bydd gleidio bob amser yn dibynnu ar y tywydd, felly fe'ch cynghorir i ffonio i wirio bob tro a fyddant yn gleidio ar y diwrnod yr ydych wedi ei drefnu. Mae angen archebu lle ymlaen llaw i gael sesiwn flasu. Mae gan y Clwb gleidio gegin fach lle gallwch wneud eich diod eich hunain a bocs bwyd ar gyfer byrbrydau - sy'n gweithio ar system flwch gonestrwydd. Mae yna hefyd feinciau picnic ar y safle. Mae’r toiledau ar y llawr gwaelod ac mae'r safle yn wastad ac yn laswelltog.

Ar drên: mae’r orsaf agosaf yn Y Fenni - mae Talgarth rhyw 18 milltir o'r Fenni.

Ar y bws: Mae Talgarth yn cael ei wasanaethu gan fysiau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu. Edrychwch ar www.traveline-cymru.org.ukam y wybodaeth deithio ac amserlenni diweddaraf. Yn ystod misoedd yr haf mae gwasanaeth Bws y Bannau hefyd yn mynd trwy Dalgarth ar ddydd Sul a dyddiau Llun Gŵyl y Banc o ddiwedd Mai tan ddechrau mis Hydref. www.travelbreconbeacons.info

Ar feic: :Mae llwybr Cenedlaethol 8 yn mynd trwy Dalgarth.


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf