Ewch â’r teulu i’r Ogofâu Arddangos Cenedlaethol a Pharc Gwledig Craig-y-nos
Mae ardal Cwm Tawe o Fannau Brycheiniog yng nghanol Geoparc y Fforest Fawr - ardal o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd ei threftadaeth ddaearegol hynod. Saif Craig-y-nos rhwng creigiau o Galchfaen Carbonifferaidd, craig sydd wedi ei cherfio i systemau ogofâu helaeth. Dim ond ogofäwyr profiadol fyddai’n mentro yma, ond mae Dan-yr-Ogof yn rhoi cipolwg ar y byd tanddaearol. Ynghyd â'r atyniadau eraill a ddatblygwyd yn y ganolfan, gan gynnwys parc dinosoriaid, canolfan Ceffylau Gwedd a man chwarae meddal dan do, mae’n ddiwrnod hwyliog allan i’r teulu.
Yn ddiweddarach yn y prynhawn, mae gan Barc Gwledig Craig-y-nos diroedd helaeth i’w harchwilio. Ar un adeg, gerddi pleser Castell Craig-y-nos oedden nhw, ond bellach yn westy, mae’r tir yng ngofal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae llwybrau gwastad sy’n disgyn yn raddol, yn eich tywys trwy'r ddôl, o amgylch coed tal ac ar hyd yr afon. Edrychwch allan am y gwahanol hwyaid ar y pyllau.
Amserlen Bosib
10.00-14.30 Ymweld â Dan-yr-Ogof
14.30-16.00 Mwynhau taith gerdded neu chwarae gemau teulu ym Mharc Gwledig Craig-y-nos
16.00 Ei throi hi am adref