Skip to main content

Llefydd i ymweld sy’n croesawu cŵn

Mae rhestr ddiddiwedd o atyniadau sy’n gadael i gŵn ymuno yn yr hwyl yn y Bannau! Bydd mwy na digon o ddewis i chi a’ch ci yn ein detholiad ni o’r dewisiadau pennaf ar eich cyfer chi a’ch ci yn y Parc Cenedlaethol…

1. Dyddiau’r Cŵn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Dewch â’ch ci i ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru! Mae BOB Dydd Llun yn Ddiwrnod i’r Cŵn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru! Ac mae (o leiaf!) un penwythnos i’r cŵn bob mis hefyd.

2. Llys Tre-tŵr

Mae pentref Tre-tŵr yn gallu brolio gorthwr crwn gwych o’r G13 ac enghraifft gyda’r gorau sydd o dŷ gennym o ddiwedd yr Oesoedd Canol yng Nghymru. Gyda’i gilydd maent yn creu eiddo sydd dros 900 mlynedd a mwy o oed ac sydd wedi ei ailwampio a’i addasu i gyd-fynd ag arddull a chwaeth yr oes. Maen nhw’n croesawu cŵn hefyd! Bu’r Tywysog Siarl neb llai ar ymweliad yn ddiweddar – felly rydych chi a’ch cyfaill pedair coes yn siŵr o gael croeso i’r brenin!

3. Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Yng Nghadeirlan Aberhonddu y ceir y maen bedydd Normanaidd mwyaf yng ngwledydd Prydain ac yma hefyd y mae capel catrodol Cyffinwyr De Cymru, a ddaeth yn adnabyddus adeg Rhyfel y Zulu. Yma hefyd y ceir Beibl Breeches prin. Canolfan Dreftadaeth yw’r ysgubor ddegwm o’r unfed ganrif ar bymtheg erbyn hyn lle ceir adluniadau, arddangosiadau clyweledol a siop grefftau. Mae bwyty a thŷ te rhagorol ar dir y gadeirlan hefyd ynghyd â rhaglen wych o ddigwyddiadau cerddorol. Ac yn bwysicach na dim – mae Croeso i Gŵn yno

4. Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol

Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yw’r lle perffaith i fwynhau diwrnod allan gyda’ch ci! Mae digon o lefydd i gerdded o amgylch y ganolfan. Mae yma fwyty hyfryd a chanolfan wybodaeth hefyd i’ch galluogi chi i ddarganfod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog!

5. Canolfan Arddio'r Old Railway Line

Mae Canolfan Arddio’r Old Railway Line yn Ganolfan Arddio, Siop Fferm a Bwyty annibynnol a theuluol sy’n cynnig y nwyddau garddio a’r cynhyrchion gorau ar gyfer y cartref a byw y tu allan, a hynny law yn llaw â chynnig bwyd a diod blasus, ffres a gynhyrchwyd yn lleol. Ewch â’ch ci gyda chi pan ewch i weld y nwyddau anhygoel sydd ganddynt. Mae ganddynt ddewis helaeth hefyd o nwyddau i anifeiliaid anwes – felly gall eich ci adael y lle yn hapus hefyd!

6. Gwaith Haearn Blaenafon

Fe wyddoch pan fydd rhywle yn lle gwych os ydyn nhw’n croesawu cŵn a’i fod hefyd am ddim! Mae’r Gwaith Haearn yn cynnig cip diddorol tu hwnt i ni ar fywyd y gweithiwr haearn yng Nghymru dros 200 mlynedd yn ôl.

7. Canolfan Ymwelwyr Glanfa a Chamlas y Goetre Fawr

Mae teithiau cerdded perffaith i gŵn ar hyd y gamlas ac yn y coetiroedd yn yr ardal o amgylch y ganolfan. Ceir blychau sain i ddehongli’r odynau calch a chaffi i fachu tamaid i’w fwyta.

8. Parc Dinefwr

Ar gyrion hen dref amaethyddol Llandeilo y lleolir ystâd drawiadol 800 erw Parc Dinefwr. Rhwng y dolydd gwair sy’n gyforiog o flodau i’r coetiroedd trwchus, mae digon o fannau agored yma i’ch ci gael ymystwytho! Er mwynhad yr holl ymwelwyr, gofynnir i gŵn gael eu cadw ar gynllyfan neu dennyn ac i unrhyw faw ci gael ei godi. Nid oes mynediad i gŵn (ac eithrio cŵn tywys) i’r parc ceirw hynafol, y llwybr bordau pren na Thŷ Newton.

 9. Canolfan Ymwelwyr Garwnant

Saif Canolfan Ymwelwyr Garwnant mewn coetiroedd sy’n croesawu cŵn a lle mae dros 400 erw yn aros i gael ei ddarganfod. Mae’r bwyty ar y safle hefyd yn rhoi croeso i gŵn, felly wedi’r anturio gallwch fachu tamaid i’w fwyta gyda’ch ci!

10. Ogofâu Arddangos Dan Yr Ogof

Caniateir cŵn teuluol cyfeillgar i’r Ogofâu Arddangos, ond rhaid cadw cŵn ar dennyn byr bob amser a rhaid i’w perchnogion gario ‘bagiau baw ci’. Ond cofiwch na chaiff cŵn fynd i’r Ganolfan Geffylau Gwedd lle mae’r Fferm, yr Ardal Chwarae i Blant a Chylchoedd Meini’r Mileniwm wedi eu lleoli.

11. Darparwyr Gweithgareddau sy’n Croesawu Cŵn

Mae digon o ddarparwyr gweithgareddau yn y Parc Cenedlaethol sy’n croesawu cŵn! Mae Beacon Activitiesyn cynnig teithiau tywys i gerddwyr ac yn croesawu cŵn! Neu beth am roi cynnig ar rywbeth gwahanol a mynd â’ch ci ar ganŵ?! Mae I Want To Canoe yn rhoi croeso i gŵn ufudd gyhyd ag y gallwch sicrhau y byddant yn aros yn y canŵ drwy’r amser, na fyddant yn amharu ar fwynhad eraill ar yr afon, nac ar berchnogion tir na bywyd gwyllt a chyhyd hefyd â’ch bod yn sicr na fyddan nhw’n peryglu eich diogelwch chi na’ch cyd-badlwyr.

12. Parc Gwledig Craig y Nos

Bellach yn Barc a Gardd Hanesyddol Gofrestredig dan reolaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, dyma i chi safle lle mae nodweddion naturiol a rhai a wnaed gan ddyn yn cydblethu’n effeithiol dros ben. Mae’r afon yn llifo’n araf drwy’r parc ond hefyd yr un mor gartrefol yma mae’r tirlun a ddyluniwyd i gynnwys coed tal, dolydd gwyrddion, planhigfeydd coed, pwll pysgod, llynnoedd, lawntiau a llwybrau cerdded drwy’r coed. Mae croeso i gŵn ar gynllyfan neu dennyn grwydro drwy’r parc gyda chwi!

13. Castell Carreg Cennen

Ychydig o gestyll drwy Ewrop gyfan all frolio safle mwy trawiadol na Charreg Cennen. Mae croeso i gŵn ar gynllyfan neu dennyn, ac fe welir yn y llun isod ddwy daith gerdded sy’n addas i gŵn.

 

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf