Canolfan Groeso Glanfa a Chamlas Goetre
Mae Glanfa Goetre’n safle treftadaeth ddiwydiannol 200 mlwydd oed sydd bellach yn gartref i ganolfan groeso brysur a marina ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.
Gwybodaeth bellach:
Mae gan y ganolfan ddigon i'w gynnig gan gynnwys arddangosfeydd a digwyddiadau, teithiau ar y gamlas a gweithgareddau plant. Mae gan yr ardal o gwmpas y ganolfan lwybrau ger y gamlas ac yn y coetiroedd, llawer o fywyd gwyllt a blychau sain yn dehongli'r odynau calch.
Sut i gyrraedd: Mae'r Ganolfan Groeso wedi’i harwyddo oddi ar yr A4042 rhwng Mamheilad a Llanofer.
Tref neu bentref agosaf: Penperlleni.
Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 13 neu Fap Landranger 161 SO 322 064.
Pellter: Mae teithiau cerdded byr o'r maes parcio a’r ganolfan groeso a theithiau hirach ar hyd llwybr y gamlas.
Cysylltwch â: Am ragor o fanylion ffoniwch 01873 880516.
Cyfleusterau: Mae siop anrhegion a chaffi yn y ganolfan groeso sydd ar agor 10:00-4:00 drwy gydol y flwyddyn. Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio ar y safle.
Parcio: Mae maes parcio mawr llwch-carreg wedi’i gywasgu gerllaw’r ganolfan. Mae'r llwybr i lawr i'r ganolfan ar ychydig o lethr.
Toiledau: Mae’r toiledau, gan gynnwys toiled i’r anabl, yn y ganolfan groeso.