Castell ac Amgueddfa’r Fenn
Yn y gorffennol roedd yr amgueddfa, sydd o fewn waliau’r castell, yn llety hela o'r 19eg ganrif. Ynddi mae llawer o eitemau ac arddangosfeydd o ddiddordeb hanesyddol o'r ardal gyfagos.
Gwybodaeth bellach:
Mae'r rhan fwyaf o'r amgueddfa yn hygyrch ond mae grisiau rhwng rhai lefelau. Mae llwybrau graean o gwmpas y tiroedd, ar un lefel yn bennaf er bod rhai llethrau serth. Mae tiroedd y Castell ar agor o 8am hyd fachlud haul. Mae mynediad am ddim.
Sut i gyrraedd: Mae'r Castell yn agos at faes parcio Stryd y Castell, sydd wedi’i arwyddo o'r gylchfan ar yr A4143 yn Y Fenni.
Tref neu bentref agosaf: Y Fenni
Cyfeirnod Grid OS:Map Explorer OL 13 neu Fap Landranger 161 - SO 300 138.
Cysylltwch â: Am fanylion ac amserau agor ffoniwch 01873 854282.
Cyfleusterau: Mae siop anrhegion yn y brif fynedfa.
Parcio: Mae maes parcio graean ar dir y castell a meysydd parcio ychwanegol gerllaw.
Toiledau: Mae toiledau rhwng dwy set o risiau yn yr amgueddfa, ac mae rhagor o doiledau gerllaw ym maes parcio Heol y Castell. Gofynnwch i aelod o staff am gymorth.