Castell Cyfarthfa, Amgueddfa ac Oriel Gelf
Mae Castell Cyfarthfa wedi’i amgylchynu â pharc. Mae'r prif adeilad yn cynnwys arddangosfeydd hanes gwneud haearn, casgliad o beintiadau o'r 19eg ganrif, crochenwaith a phorslen, hynafolion dwyreiniol, bandiau pres ac arddangosfeydd dros dro sy’n newid.
Gwybodaeth bellach:
Mae gan y brif fynedfa risiau llydan gyda ramp ar ochr yr adeilad. Mae'r mwyafrif o'r arddangosfeydd ar un lefel gyda lifft grisiau i arddangosfeydd ar yr islawr. Mae gan y mwyafrif o'r llwybrau tu allan arwyneb tarmac ac mae gan y llwybr o gwmpas y parc rai llethrau bas. Mae mannau gorffwys ar hyd y llwybrau ac mae ardal bicnic. Mae’n bosibl mynd â cherbyd ar hyd rhai o'r llwybrau yn y parc. Gall defnyddwyr cadair olwyn fod angen cymorth i fynd i mewn i'r adeilad
Sut i gyrraedd: Mae castell Cyfarthfa ar fin yr A4054 i’r gogledd o Ferthyr Tudful.
Tref neu bentref agosaf:Merthyr Tudful
Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 12 neu Fap Landranger 160 - SO 042 074.
Cysylltwch â: Am ragor o fanylion ffoniwch 01685 723112 neu ebostiwch.
Cyfleusterau: Ffoniwch am amserau agor a manylion hygyrchedd eraill. Mae’r mynediad am ddim ac mae caffi sy'n darparu bwydydd Cymreig traddodiadol. Mae cadair olwyn ar gael i'w benthyg. Mae gwasanaeth bws o orsaf fysiau Merthyr Tudful sydd â chysylltiadau o ganolbarth a de Cymru.
Parcio: Mae maes parcio o flaen prif adeilad y Castell.
Toiledau: Mae toiledau yn y prif adeilad ac yn y parc (toiled RADAR NKS)