Cuddfan Adar Cronfa ddŵr Talybont
Ym mhen pellaf Cronfa Ddŵr Talybont mae cuddfan adar sy'n edrych dros ardal o Wlyptir a ddiogelir, sy’n gorlifo yn y gaeaf.
Gwybodaeth bellach:
Mae'r guddfan yn agos at y ffordd, ac mae llwybr llydan, gwastad yn arwain at y drws. Mae meinciau a lle ar gyfer un gadair olwyn.
Sut i gyrraedd: Mae'r gronfa ddŵr ychydig i'r de o bentref Talybont-ar-Wysg, sydd 8 km i'r de-ddwyrain o Aberhonddu. Mae'r guddfan ym mhen (deheuol) Torpantau y gronfa ddŵr.
Tref neu bentref agosaf: Talybont-ar-Wysg
Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 12 neu Fap Landranger 160/161 SO 090 179.
Pellter: 10 metr.
Cysylltwch â: Dŵr Cymru ar 01495 769281
Cyfleusterau: Mae siop a Swyddfa’r Post gyda gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol a sawl tafarn yn Nhalybont-ar-Wysg.
Parcio: Mae llecyn bychan i barcio wrth geg y llwybr.
Toiledau: Mae toiledau cyhoeddus sylfaenol ger y White Hart Inn yn Nhal-y-bont ar Wysg. Mae'r toiledau i’r anabl agosaf yn encilfa Llansanffraid ar yr A40