Rheilffordd Mynydd Brycheiniog
Teithiwch ar y trên stêm rheilffordd gul drwy olygfeydd hardd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar un o'r teithiau mwyaf poblogaidd yng Nghymru.
Gwybodaeth bellach
Mae un cerbyd rheilffordd wedi'i gynllunio i gario cadeiriau olwyn. Mae ramp mewnol o’r swyddfa docynnau i'r siop anrhegion a’r platfform. Mae'r trên yn stopio wrth Gronfa Ddŵr Pontsticill, sydd â phlatfform gwastad a golygfeydd o’r bryniau cyfagos.
Sut i gyrraedd: Mae Gorsaf Reilffordd Pant ychydig filltiroedd i'r gogledd o Ferthyr Tudful ac i'r de o Gronfa Ddŵr Pontsticill. Dilynwch arwydd y trên ar arwyddion brown o'r A465.
Tref neu bentref agosaf:Pant, Merthyr Tydfil.
Cyfeirnod Grid OS Grid:Map Explorer OL 12 neu Fap Landranger 160 -SO 059 097.
Cysylltwch â: ffoniwch 01685 722988 neu ewch i wefan Brecon Mountain Railway
Cyfleusterau: Ystafell de drwyddedig a siop. Ffoniwch neu ewch i’r wefan i gael manylion am amserau agor y safle. Gellir cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus - ffoniwch am fanylion.
Parcio: Mae maes parcio ceir a bysiau am ddim ar y safle a mannau parcio i'r anabl. Mae'r maes parcio yn gymysgedd o darmac a cherrig wedi'u cywasgu.
Toiledau: Mae toiledau i’r anabl ar y safle.