Skip to main content

Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Ychwanegwyd Tirweddau Diwydiannol Blaenafon i restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd fis Tachwedd 2000 ar sail yr henebion niferus a’r adeiladau arwyddocaol sydd yn ac o amgylch y dref, a’i thirwedd ddiwydiannol.

Gwybodaeth bellach:
O fewn y 32.9 cilometr sgwâr o Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon mae tref Blaenafon, safleoedd o ddiddordeb megis Big Pit, y Gwaith Haearn a Chamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu a holl dirwedd drawiadol yr ardal. Mae mwy na 40% o'r Safle Treftadaeth y Byd o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Mae rhai safleoedd mwy hygyrch na’i gilydd i ymweld â nhw yn yr ardal gan gynnwys Pwll Pen-ffordd-goch neu Keeper’s Pond a Llynnoedd Garn.

Sut i gyrraedd: Mae Blaenafon i’r de-ddwyrain o Fryn-mawr ac i'r gogledd o Bont-y-pŵl.

Tref neu bentref agosaf: Blaenafon

Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 13 neu Fap Landranger 161 - SO 249 092 .

Cysylltwch â:  Am ragor o wybodaeth ffoniwch01495 742333  neu ymweld â’r wefan

Cyfleusterau:  Am ragor o wybodaeth ffoniwch01495 742333neu ymweld â’r wefan

Parcio: Am ragor o wybodaeth ffoniwch01495 742333  neu ymweld â’r wefan

Toiledau: Mae toiledau hygyrch ym Mlaenafon, Bryn-mawr a Phont-y-pŵl.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf