Pethau i’w gwneud beth bynnag fo’r tywydd!
Mae yna ddigonedd o bethau i’w mwynhau ym Mannau Brycheiniog boed law neu hindda! Dyma rai o’r pethau gorau i’w gwneud os yw’n bwrw glaw neu’n oer tu allan…
O dan y ddaear
1. Ewch i weld Pwll Mawr- I fwynhau gorffennol diwydiannol Cymru ar ei orau, dylai Pwll Mawr fod ar eich rhestr. Mae wrth ymyl ffin y Parc i’r de a’r prif atyniad yw’r pwll dan ddaear, ond cofiwch hefyd am yr orielau ar y bryn – mae’n werth mynd draw yno.
2. Cewch ddarganfod Mwyngloddiau Aur Dolaucothi – Yr unig Gloddfa Aur Rufeinig yn y DU! Cewch weld sut fywyd oedd gan y glowyr Rhufeinig a fu’n cloddio drwy’r tir gyda chymorth yr offer llaw mwyaf sylfaenol; neu sut fywyd oedd gan y glowyr Oes Fictoria a ddefnyddiai ffrwydron i dorri drwy dunelli o siâl i gyrraedd y metel gwerthfawr tu mewn. Mae teithiau tywys yn rhedeg gydol y dydd rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd.
3. Ewch i fwynhau Ofogâu Arddangos Dan Yr Ogof –Os nad ydych chi’n barod i fynd ar brofiad ogofa llawn mae Ofogâu Arddangos Dan yr Ogof yn gyfle gwych i archwilio ofogâu a mwynhau’r ffurfiau cerrig, heb anghofio’r parc dinosoriaid!
4. Beth am fynd i Ogofa–Bu ein hofogâu a’n ceudyllau yn ffurfio’n dawel dros flynyddoedd lawer, dan ddaear ac o’r golwg. Mae ymwelwyr yn dod o bob cwr o’r byd i ardal de-orllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i weld yr ofogâu anhygoel hyn a mwynhau gwefr eu darganfod. I rai, dyma eu trip cyntaf yn ogofa, tra bo gan eraill flynyddoedd lawer o brofiad. Cewch ragor o wybodaeth yma. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ne Cymru yn un o’r ardaloedd ogofa mwyaf cyffrous ac amrywiol ym Mhrydain. Mae ein Geoparc yn cynnwys pedair allan o’r pum system ofogâu calchfaen hiraf ym Mhrydain. Pam na ddewch draw i fwynhau’r byd tanddaearol hynod hwn? Cewch fynd i ogofa gydag un o’r hyfforddwyr a'r arweinwyr arbenigol.
I’r teulu
5. Mae hwyl i’r teulu cyfan i’w gael yn Fferm Antur Cantref – beth bynnag fo’r tywydd mae Cantref – Antur Fwyaf y Bannau yn cynnig diwrnod gwych i’r teulu yn ne Cymru! Fe wnaethant ennill gwobr Atyniad Fferm Cenedlaethol y DU yn 2017! Mae ganddynt ardal offer chwarae meddal dan do, lle i gwrdd â’r anifeiliaid anwes, ysgubor anifeiliaid mawr a chaffi!
6. Ewch am dro drwy Ganolfan Arddio’r Old Railway Line – cynhelir yma ddigwyddiadau ‘dydd Mercher Gwyllt’ yn rheolaidd i gadw’r plant yn hapus. Mae yma Fferm a siop anrhegion ar gyfer eich holl anghenion, ynghyd â chaffi mawr sy’n gweini bwyd blasus bob dydd!
7. O fewn cam a naid mae Ysgubor Chwarae Brynich- Mae’r Ysgubor Chwarae ym Mrynich yn ganolfan chwarae offer meddal dan do a saif ar gyrion Aberhonddu. Mae ganddynt hefyd gaffi sy’n cynnig bwyd blasus, byrbrydau a diodydd. Mae’r Ysgubor Chwarae ym Mrynich ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul yn ystod y tymor ysgol. Cewch yma antur, ymarfer corff a hwyl a sbri mewn amgylchedd diogel dan do!
8. Ewch ar daith ar Reilffordd Mynydd Brycheiniog– Cewch deithio ar drên stem drwy olygfeydd godidog ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar un o’r llwybrau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae’r siwrnai’n mynd â chi i mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, drwy Bontsticill ac ar hyd lannau Cronfa Ddŵr Taf Fechan cyn dringo i Torpantau sydd i fyny’n uchel ym Mannau Brycheiniog a rhan uchaf y lein wreiddiol. Ym mhrif orsaf reilffordd Pant ewch i’n Hystafelloedd Paned am damaid i’w fwyta, ac mae anrhegion a rhoddion ar gael o’r Siop. Gallwch hefyd fynd i’n Gweithdy lle mae’r Locomotifau stêm a’r Cerbydau’n cael eu trwsio.
9. Ewch amdani yng Nghanolfan Aml Weithgaredd Llan-gors sy’n Ganolfan Gweithgareddau Dan Do ac Awyr Agored o fri yng Nghymru a leolir yn hyfrydwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ers dros 55 mlynedd, maent wedi cynnig llu o weithgareddau cyffrous heb eu hail yn y DU i bobl o bob gallu. Mae digon i’w wneud dan do- o ddringo creigiau, bowldro, Pontydd Rhaffau, Gwifren Wib, Ogofa ac Abseilio!
10. Ewch i wylio sioe yn Theatr Brycheiniog – Mae Theatr Brycheiniog yn lle gwych i fwynhau sioeau a cherddoriaeth fyw i bob oed yn 2018! Mae’r theatr yn cynnig rhaglen boblogaidd ac uchel ei chlod o adloniant a’r celfyddydau perfformio gydol y flwyddyn. Edrychwch yma i weld beth sydd ar gael y mis hwn.
11. Dewch i gael lloches yn un o’n llu o lefydd bwyta a’n marchnadoedd ffermydd!
Ym Mannau Brycheiniog, mae bwyd a diod yn fater o bwys. Mae’r holl gynhwysion yma, wedi’r cyfan. Awyr iach a bryniau agored. Dyffrynnoedd ffrwythlon. Digonedd o ddŵr glân. O fwytai gourmet â’u gerddi bwthyn eu hunain i dafarndai clyd sy’n gweini cig oen Cymreig i ginio dydd Sul, mae gennym ddigon o leoliadau bwyta rhagorol i’ch denu. Mae ein brecwastau Cymreig traddodiadol yn chwedl. Bydd ein caffis a’n hystafelloedd te yn ddigon i’ch hudo â’u danteithion. Ac fe gewch chi gyfoeth o bethau da ar gyfer picnic ac anrhegion yn ein delis, ein gwyliau bwyd a’n marchnadoedd ffermwyr.
Ewch i weld ein gerddi, ein heglwys gadeiriol a’n cestyll
12. Ewch draw i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru- Mae llawer o bethau’n digwydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gydol y flwyddyn. Welsoch chi’r tŷ pili palod? Mae’r Ardd ar agor rhwng 10am a 6pm gyda’r mynediad olaf am 5pm. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.
13. Ewch i weld Eglwys Gadeiriol Aberhonddu- sefydlwyd Eglwys Gadeiriol Aberhonddu i ddechrau yn 1093 fel Priordy Benedictaidd Sant Ioan yr Efengylwr, a adeiladwyd gan y Normaniaid ar safle eglwys Geltaidd gynharach. Adeg diddymu’r mynachlogydd yn 1538 daeth yn Eglwys Plwyf Aberhonddu. Dim ond yn 1923 y daeth yn Eglwys Gadeiriol, adeg sefydlu Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Mae’r Eglwys Gadeiriol yng nghanol yr Esgobaeth sy’n ymestyn o Fugeildy yn y gogledd i Benrhyn Gŵyr godidog yn y de, gan gynnwys y rhan fwyaf o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Dinas Abertawe.