Digwyddiadau celf a chrefft
Byddwch yn grefftus yn un o’n digwyddiadau creadigol a gynhelir yn y Parc. Cewch wylio artistiaid yn gweithio, neu ddatblygu’ch sgiliau eich hunain mewn paentio, gwehyddu, crochenwaith, gwaith coed, turnio coed neu ffotograffiaeth.
Oriel Gorsaf Erwyd
Llandeilo Graban, Llanfair ym Muallt, LD2 01982 560674 www.erwoodstation.com
Yn arddangos y gorau oll mewn crefft, paentiadau a cherfluniau o fewn gorsaf a 3 cherbyd trên! Mae Oriel Gorsaf Erwyd ger yr Afon Gwy mewn man sy’n adnabyddus am ei phrydferthwch. Mae’n lle delfrydol ar gyfer cerddwyr ac adarwyr (mae yna guddfan adar o dan ofal Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed yn y caban signalau sydd wedi ei adnewyddu) ac mae hyd yn oed injan yno hefyd. Mae gennym Ystafell De yn yr orsaf, ar agor o ganol mis Chwefror tan ddiwedd mis Rhagfyr. Amserau agor: 10:30 - 4:30 bob dydd heblaw am Ddydd Mawrth. Mae’r Ystafell De yn cau am 4 yr hwyr. Mae yna lai o ddiwrnodau agored y tu allan i’r tymor, ewch i’n gwefan i gael y manylion mwyaf diweddar os gwelwch yn dda.
Chapel Cottage Studio
Llanddewi Rhydderch, Y Fenni NP7 9TT 01873 840282 www.chapelcottagestudio.co.uk
Dyma ganolfan ddysgu celf fechan, deuluol sy’n gorwedd yng nghanol cefn gwlad prydferth Sir Fynwy. Mae’n gartref i’r arlunydd a’r tiwtor Jantien Powell sy’n adnabyddus iawn yn lleol am ei phaentiadau gwledig o gefn gwlad Cymru a’i chymeriadau. Yn ogystal â bod yn fan arddangos, mae Chapel Cottage Studio yn cynnig rhaglen lawn ac amrywiol o ddosbarthiadau a gweithdai Celf drwy gydol y flwyddyn. Mae yna ddewis o ddosbarthiadau 2 awr yn wythnosol, gweithdai diwrnod cyfan neu gyrsiau mwy dwys sy’n parhau am 6 diwrnod. Yn wir, mae yna rywbeth i bawb, p’un ai ydych yn hoff o baentio olew, dyfrlliwiau, pastelau, bywluniadau, braslunio neu argraffu, mae yna ddosbarth i chi.
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithdai diwrnod llawn yn costio £45 ac mae hyn yn cynnwys te, coffi a bisgedi diderfyn yn ogystal â chinio cartref arbennig. Cedwir dosbarthiadau i uchafswm o 12 o fyfyrwyr er mwyn sicrhau sylw unigol i bawb gan y tiwtor. Os nad ydych erioed wedi codi pensil neu os ydych wedi bod yn paentio ers 20 mlynedd, bydd yna ddosbarth i’ch bodloni.
Lion Street Gallery
6, Lion Street, Hay-on-Wye, HR3 5AA 01497 822 900 www.lionstreetgallery.co.uk
Yn ddiweddar wedi’i hystyried gan wefan Culture Trip yn un o orielau gorau Cymru, mae The Lion Street Gallery yn bennaf yn hyrwyddo arlunwyr sy’n gweithio yng Nghymru a’r Gororau. Mae yna sioeau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn sy’n rhoi sylw arbennig i arlunwyr Cymreig sefydledig, yn ogystal â thalent ifanc newydd. Mae yna groeso i gŵn sy’n hoffi celf. Ar agor Ddydd Llun - Ddydd Sadwrn 10.30 - 5.00.
The Old Printing Office
Broad Street, Llandovery, Carmarthenshire, SA20 0JP, 01550 720690 more info
Mae’r Old Printing Office yn fusnes teuluol sydd wedi ei leoli yng nghalon tref farchnad brydferth Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Mae’r adeilad yn dyddio o’r 1700au a bu’n gartref i un o’r argraffweisg cyntaf yng Nghymru, gan gynhyrchu cyfrolau hanesyddol fel y Brutusiana. Rhoddwyd y peirianwaith oedd yn weddill i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac mae’n bosib eu gweld o dro i dro yn Sain Ffagan a chanolfannau treftadaeth eraill.
A ydych yn siopa am gelf, crefft a rhoddion?
Ydych chi’n barod i bori drwy rhai o’n horielau am baentiadau, argraffiadau, crochenwaith, powlenni pren a thrysorau eraill o waith llaw? Os felly, ewch i ymweld â’n tudalen ar hunting down the best local art, crafts and gifts.