Gwyliau
Mae ein gwyliau blynyddol yn dathlu’r cerdded, bwyd, diod, celfyddyd, cerddoriaeth a’r adloniant gorau sydd gan y Parc Cenedlaethol i’w cynnig. Does dim byd yn well nag ymgasglu at ein gilydd, ac mae croeso i bawb. Dewch i ymuno â ni!
MAWRTH
Gŵyl Gerdded Crucywel
www.crickhowellfestival.com
Crucywel yw cartref un o wyliau cerdded mwyaf adnabyddus Cymru. Gyda’r digwyddiad yn parhau dros ddeng niwrnod yn gynnar ym mis Mawrth, mae’n rhoi sylw arbennig i ystod eang o deithiau cerdded tywysedig ynghyd â sgyrsiau gan westeion enwog a thwmpath Cymreig traddodiadol.
MAI
Gŵyl Gerdded Talgarth
www.talgarthwalkingfestival.org
Wedi ei sefydlu yn 2013, bydd y cyfarfod bywiog hwn yn eich annog i archwilio’r cefn gwlad o amgylch Talgarth a dysgu pethau newydd am y dirwedd.
MAI
Gŵyl Lenyddol a Chelfyddydol y Gelli
www.hayfestival.com
Mae’r Gelli Gandryll yn llawn haeddu’i henwogrwydd am y digwyddiad rhagorol hwn sy’n dathlu llenyddiaeth gyfoes a thrafodaeth ddeallus. Efallai bod y cysyniad yn uchel ael, ond yn bendant mae gan yr ŵyl ochr hwyliog, gyda digonedd o ddigrifwyr yn bresennol, bwyd blasus ar gael a digwyddiadau cerddorol bywiog mewn lleoliadau ymylol. Mae’r fformiwla wedi ei brofi i fod mor llwyddiannus mae wedi lledu o’r Gelli i leoedd mor bell i ffwrdd â Libanus, Mexico a’r Maldives.
MEHEFIN
Gŵyl Fwyd Haf Y Gelli Gandryll
www.breconbeacons.org/food-festivals
Mae’n werth ymweld â’r cyfarfod undydd hwn ar fwyd chwaethus. Mae wedi ei gyfyngu i nifer weddol fychan o gynhyrchwyr bwyd, seidr a wisgi lleol er mwyn sicrhau bod popeth o’r ansawdd gorau posib ac mae yna adloniant gan fandiau pres lleol, corau meibion a cherddorion gwerin.
AWST
Gŵyl Jazz Aberhonddu
www.breconjazz.comwww.breconfringe.co.uk
Os yr ydych yn hoffi gwrando ar gerddoriaeth jazz mwynaidd mewn amgylchiadau hamddenol, byddwch wedi dwli ar Ŵyl Jazz Aberhonddu. Dros y blynyddoedd, mae goreuon fel George Melly, Humphrey Lyttleton, Cleo Laine, Van Morrison, Amy Winehouse, Courtney Pine a Jools Holland wedi perfformio yma. Mae’n cyd-redeg â Gŵyl Ymylol Aberhonddu, sy’n tynnu llwythi o gerddorion at ei gilydd ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau teuluol mewn dros 30 o leoliadau y tu mewn i, ac o amgylch, Aberhonddu. I ffwrdd â ni!
AWST
Gŵyl y Dyn Gwyrdd
www.greenman.net
Dyma ddigwyddiad ffantastig dros bedwar diwrnod mewn lleoliad gwledig prydferth. O ddechreuadau diymhongar, datblygodd yn Ŵyl Gerddorol fwyaf Cymru. Mae sêr diweddar yn cynnwys Mogwai, Van Morrison a Band of Horses, a’r rhai fu’n cymryd rhan yn y gorffennol yn cynnwys Mumford and Sons, Billy Bragg, Jarvis Cocker a Spiritualized. Mae bwyd da, gosodiadau celf a choelcerthi yn creu naws arbennig.
AWST
Gŵyl Y Mynyddoedd Du, Talgarth
www.talgarthfestival.org.uk
Yn Nhalgarth, gallwch ymuno â’r trigolion lleol wrth iddynt ddathlu penwythnos Gŵyl Banc Awst gyda diwrnod allan am ddim i’r teulu, gyda sylw arbennig ar fwyd, cerddoriaeth ac adloniant.
MEDI
Gŵyl Fwyd Y Fenni
www.breconbeacons.org/food-festivals
Mae gan ŵyl benwythnos Y Fenni o fwyd, diod a chwilota, enw ardderchog yn barod, ac, fel gwin da, mae’n gwella bob blwyddyn. Cewch yno stondinau, arddangosiadau, sgyrsiau a gweithgareddau diddorol iawn fel teithiau tywys ar fwyd gwyllt.
HYDREF
Gŵyl Gelf Aberhonddu
www.artbeatbrecon.org
Celf a chrefft yw popeth ym mis Hydref yn Aberhonddu. Dyma ŵyl ag iddi raglen gyffrous o arddangosfeydd, gweithdai, arddangosiadau, tai agored, crochenwaith, gwaith gwydr a sesiynau arlunio, yn ogystal â barddoniaeth, theatr a digonedd o eitemau gwaith llaw ar gael i’w prynu.
HYDREF
Gŵyl Fwyd Aberhonddu
www.breconbeacons.org/food-festivals
Mae’r digwyddiad undydd hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich blasbwyntiau. Mae’n ceisio hybu’r diwydiant bwyd a ffermio lleol drwy godi ymwybyddiaeth am beth sydd i’w gynnig. Gyda’r canolbwynt yn Neuadd Farchnad Aberhonddu, mae’n gorlifo allan dros y dref i gyd.
HYDREF
Gŵyl Gerdded Y Gelli
www.haywalkingfestival.com
Dyma ŵyl boblogaidd sy’n rhedeg am bum niwrnod ac sy’n cynnwys digonedd o deithiau cerdded grŵp, rhai yn fyr, rhai yn hir, o amgylch Y Gelli Gandryll a’r Mynyddoedd Du. Mae’r themâu yn cynnwys chwilota, llywio, cerdded Nordig, daeareg, archaeoleg ac eglwysi hynafol.
Gŵyl Gerdded Sir Fynwy
www.walkinginmonmouthshire.org
Yn ymestyn dros ddeg diwrnod, mae’r ŵyl gyfeillgar hon yn eich gwahodd i ddarganfod copaon Bal Bach, Chwarel y Fan, Crug Mawr a Phenybegwn, yn ogystal â Chlawdd Offa, Dyffryn Gwy, Priordy Llanddewi Nant Hodni a Chapel-y-ffin. Bydd tywyswyr arbenigol yn sgwrsio am blanhigion, llên gwerin a hanes lleol.
TACHWEDD
Gŵyl Fwyd Aeaf Y Gelli Gandryll
www.breconbeacons.org/food-festivals
Cynhelir yr ŵyl hon ar Ddydd Sadwrn, ac mae’n dathlu popeth sy’n dda am goginio yn nhymor y gaeaf, gyda stondinau gan gynhyrchwyr lleol ac adloniant cerddorol am ddim.
TACHWEDD
Penwythnos Gaeaf Gŵyl y Gelli
www.hayfestival.com
Mae’r Penwythnos Gaeaf yn ychwanegiad at brif Ŵyl y Gelli ac fe’ch gwahoddir i fwyta, meddwl a bod yn llon. Ceir sgyrsiau, digrifwch, cerddoriaeth, gwin cynnes, mins-peis a siopa Nadolig chwaethus.
Drwy gydol y flwyddyn
Y tu allan i dymor y gwyliau, mae ein lleoliadau perfformio yn parhau i gynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar Performing arts and entertainment.