Tascis a gwasanaeth cludo
Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol
Mae awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig cwrs hyfforddi i yrwyr tacsi lleol. Pwrpas y cwrs yw rhoi gwybodaeth ar hanes lleol, lleoedd o ddiddordeb, gweithgareddau, digwyddiadau a gwahanol wyliau'r ardal i’r gyrwyr allu rhannu â’u cwsmeriaid. Mi fydd y gyrwyr sydd wedi mynychu’r cwrs yn arddangos bathodyn yn eu ceir i chi allu eu hadnabod.
Hyd yma mae'r cwrs wedi cael ei gynnal yn Aberhonddu, Crucywel, Y Fenni a Llanymddyfri. Mi fydd cyrsiau yn cael eu cynnal o amgylch trefi eraill o fewn y Parc Cenedlaethol cyn hir.
Gyrwyr tacsi sydd â gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol
Aberhonddu
A&A Cabs 01874 622288 (cerbydau addas ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael)
ADB Travel 01874 636265
Brecon Taxis 01874 623444
Taxi Taxi 01874 625522
Crucywel
Stockham's Coaches and Taxis 01873 810343
Y Fenni
TaxiTacsi 01291 691870
Brian's Taxis 01873 858597
Llanymddyfri
Ray's Taxis 0777 521 0900
Man cyfarfod i gerddwyr
Mae'r prif fannau cyfarfod sy'n cael eu defnyddio gan gerddwyr o fewn y Parc Cenedlaethol wedi cael eu nodi ac mae ganddynt rif adnabod eu hunain. Cyn cychwyn ar eich taith gerdded fe allwch chi drefnu o le yr hoffech chi gael eich casglu. Mae gan yrwyr Gwybodaeth Parc Cenedlaethol fap o'r prif fannau a'r rhifau perthnasol, ac fe all hyn arbed cymysgu lleoliadau a thrafferthion signal ffonau symudol.
Gwasanaeth cludo beic a bagiau
Er mwyn hwyluso teithio i chi, mae nifer o'r cwmnïau sy'n cynnal gweithgareddau o fewn y Parc Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth cludo ar gyfer eich bagiau a beic. Cysylltwch â'r cwmnïau yn uniongyrchol i sicrhau manylion.
Celtic Trails
PO Box 11, Cas-gwent NP16 6ZO, rhif ffôn 01600 860846. Teithiau cerdded â chludo bagiau. Llwybr y Bannau a Chlawdd Offa.
Contours Walking Holidays
Gramyre Berrier Road, Greystoke CA11 0UB, rhif ffôn 01768 480451. Teithiau cerdded â chludo bagiau. Clawdd Offa, Taith Dyffryn Wysg.
Drover Holidays
tel 01497 821134, www.droverholidays.co.uk Teithiau cerdded gyda thywyswr neu eich hunain gyda chludiant i fagiau a beiciau.
Mountain & Water
2 Upper Cwm Nant Gardens, Llanelli Hill, Y Fenni NP7 0RF, rhif ffôn www.mountainandwater.co.uk. Gwasanaethau codi, gollwng a throsglwyddo i gerddwyr, beicwyr a bagiau, yn ogystal â theithiau cerdded a throsglwyddo bagiau. Clawdd Offa, Llwybr y Bannau, Llwybr Taf ayyb.
Ride & Hike
tel 07989 242550, www.rideandhike.co.uk. Gwasanaeth cludo ar gyfer cerddwyr, beicwyr a’u bagiau unrhyw le yn y Parc Cenedlaethol. Ôl-gerbyd cludo beiciau hefyd ar gael.