Ein hoff deithiau cerdded clychau’r gog ym Mannau Brycheiniog
Wrth i’r gaeaf droi’n wanwyn o’r diwedd cawn fwynhau dyfodiad clychau’r gog eiconig. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gartref i warchodfeydd natur trawiadol a choetiroedd sy’n cynhyrchu blodau gwych anhygoel yr adeg hon o’r flwyddyn, gan gynnwys clychau’r gog, sy’n ffefryn gan nifer.
Mae gweld clychau’r gog yn un o uchafbwyntiau’r tymor na ddylid ei fethu. Gallwch gerdded yn eu mysg, neu eistedd yn ôl a mwynhau’r olygfa, carpedi o flodau glas sy’n plygu eu pennau ac yn dechrau blaguro ledled cefn gwlad a gerddi Bannau Brycheiniog. Fel arfer, mae clychau’r gog ar eu gorau yn y Parc Cenedlaethol yn ystod ail a thrydedd wythnos mis Mai, ond mae’r amseru’n dibynnu ar y tywydd.
Dyma ein hoff deithiau cerdded i chi gael mwynhau clychau’r gog - beth am neilltuo’r prynhawn cyfan a galw yn un o’n tafarndai neu gaffis ar ôl eich taith gerdded am damaid i’w fwyta neu yfed?
1.Gwarchodfa Pwll-y-Wrach
Mae tref Talgarth yn y Mynydd Du’n ganolfan ddelfrydol i’r rhai sy’n hoff o natur, gan fod coedwigoedd gwych yno ble gallwch chi weld clychau’r gog, blodau’r gwynt a garlleg gwyllt. Mae Gwarchodfa Pwll-y-Wrach Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog yn lle prydferth i’w weld.
Yn agos at Felin a Chaffi Talgarth.
2. Coedwig y Castell ym Mharc a Chastell Dinefwr, ger Llandeilo
Mae clychau’r gog Parc Dinefwr yn wledd go iawn i’r llygad a’r trwyn. Bob gwanwyn, mae Coedwig y Castell yn frith o filoedd o flodau porffor golau prydferth sy’n rasio i dyfu cyn i’r dail ddychwelyd i ganopi enfawr y coed, gan guddio’r heulwen unwaith yn rhagor. Dewch i ddysgu am Gastell Dinefwr a mwynhau’r golygfeydd godidog.
Piciwch i mewn i Gaffi Parc Dinefwr neu’r Plough Inn, Rhosmaen (ddim yn bell mewn car)
3. Coedwig y Gwanwyn Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Phont Felin Gât
Mae gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddau le gwych i chi gael gweld clychau’r gog.
Mae Coedwig y Gwanwyn ar ei gorau yn y gwanwyn a’r hydref. Yn y gwanwyn mae’r goedwig yn garped o flodau’r gwynt, briallu, fioledau a chlychau’r gog.
Mae Pont Felin Gât yn gwm prydferth coediog sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr weld blodau coetir hynafol a gweddillion atgofus Middleton Hall Regency Park. 200 mlynedd yn ôl, roedd Pont Felin Gât yn enwog am ei ffynhonnau dŵr haearn ac wedi ei haneru gan gylch o lynnoedd. Heddiw, mae sawl cliw yno am sut yr arferai gael ei defnyddio, ac ni ellir osgoi’r rhaeadr bwerus.
4. Priory Groves, Aberhonddu
Mae Priory Groves drws nesaf i Gadeirlan Aberhonddu ac mae’n goedlan gymysg, ar lan afon Honddu, gyda choed derw, ffawydd, cyll a gwern. Waeth pa adeg o’r flwyddyn ewch chi, mae adar i’w gweld yno. Tra byddwch chi wrth yr afon, cadwch lygad am fronwen y dŵr drwy gydol y flwyddyn a’r siglen lwyd yn yr haf. Yn ystod y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf, mae llawer o flodau gwyllt i’w gweld.
Galwch i mewn i Gaffi Gorau Bannau Brycheiniog, Caffi a Siop Lyfrau The Hours.
5. Ysgyryd Fawr
Cerddwch yn hamddenol o gwmpas y Mynydd Sanctaidd ddiwedd Ebrill a dechrau Mai i weld y llethrau gorllewinol yn llawn clychau’r gog.
Piciwch i mewn i’r Walnut Tree Inn neu Westy’r Angel wedyn.
6. Coed Cefn, Coedwig Clychau’r Gog, Crughywel
Gelwir Coed Cefn yn Goedwig Clychau’r Gog gan bobl leol gan fod canopi enfawr o dderw, ffawydd a fflora ar y ddaear yno gan gynnwys clychau’r gog a mieri. Mae’r safle hynafol hwn sydd â chaer Oes yr Haearn ar ben y bryn yn ogystal â ffin o wrych a waliau sychion yn rhoi gogwydd hanesyddol i’ch ymweliad â’r coetir.
Ewch draw i Westy’r Bear neu’r Dragon Inn wedyn.
7. Coed y Bwnydd
Safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Coed y Bwnydd - un o fryngaerau mwyaf a gorau Sir Fynwy. Heddiw, mae cysgodion brith, cân yr adar ac arogl hyfryd clychau’r gog yn y gwanwyn yn golygu bod y dirwedd odidog hon yn parhau i fod yn hafan i bobl ac i fywyd gwyllt. Ceir golygfeydd godidog o’r Fâl a Dyffryn Wysg.