Cestyll
Yn frith drwy’r ardal, mewn trefi ac ar glogwyni mwy anghysbell, mae adfeilion hen gestyll gogoneddus a phlastai urddasol yn dwyn i gof orffennol cythryblus a grym perchnogion stadau cefnog yr ardal. O’r ffin â Lloegr i bellteroedd gorllewinol y Parc Cenedlaethol, mae adfeilion hudol y cestyll canoloesol yn croniclo’r holl ymrafael am rym a fu rhwng y barwniaid, a gafodd diroedd yng Nghymru gan Gwilym Goncwerwr, a’r tywysogion Cymreig. Mae’r adeiladau diweddarach, mwy cyflawn a chrand, yn dwyn i gof gyfoeth tirfeddianwyr a diwydianwyr cyfoethog a’u hawydd i godi plastai moethus a fyddai’n brolio eu golud a’u grym.