Skip to main content

Treftadaeth ddiwydiannol a gwledig

Dychmygwch barc cenedlaethol, a beth rydych chi’n ei weld? A ydych chi’n dychmygu gweld ardal brydferth, naturiol o laswelltir, coedwigoedd neu fryniau agored, sy’n berffaith ar gyfer cerdded, ymlacio a gwylio bywyd gwyllt? Mae gan Fannau Brycheiniog ddigon o dirweddau gwyllt, gwyrdd fel hyn, ond mae mwy i’n Parc Cenedlaethol na hynny.

Mae Bannau Brycheiniog yn ardal â gorffennol cymhleth iddi. Mae pobl wedi byw yma ers 8000 o flynyddoedd a gweithgareddau’r bobl hynny sy’n gyfrifol am siâp y dirwedd. Bu newidiadau enfawr yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ac roedd De Cymru’n rhan flaenllaw o’r Chwyldro hwnnw.

Erbyn hyn, mae rhai o’n hadeiladau fferm, ein safleoedd diwydiannol a’n hadeiladau yn amgueddfeydd lle gallwch ddysgu am hanes ein gwaith, ein cynhyrchiant a’n harloesedd. Mae eraill, fel Camlas Mynwy ac Aberhonddu, wedi cael ei hailddyfeisio fel mannau hyfryd i dreulio amser yn yr awyr agored a’r mannau hynny wedi’u rhannu gan gerddwyr, beicwyr, cychod, ceffylau, anifeiliaid ac adar.


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf