Ogofâu
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys rhai o’r systemau ogofeydd pwysicaf yn Ewrop. Teyrnas yr ogofäwr mwyaf profiadol yn unig yw’r rhan helaethaf o’r ogofeydd hyn, ond mae’n llawer haws cael mynediad i rai rhannau ohonynt. Mae Canolfan Ogofeydd Cenedlaethol Cymru, Dan-yr-Ogof yn lle gwych i ddechrau.
Os hoffech chwilio’n ehangach, efallai y bydd angen caniatâd clwb lleol arnoch, a chymorth hyfforddwr neu arweinydd cymwys.