Sut y crëwyd ein hogofâu?
Dechreuodd yr ogofâu calchfaen ffurfio dros 300 miliwn mlynedd yn ôl.
Ffurfiwyd calchfaen carbonifferaidd De Cymru ym moroedd trofannol bas yr Oes Baleosoic, dros 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’r rhan fwyaf ohono o darddiad organig, wedi ei ffurfio o gregyn a sgerbydau creaduriaid y môr, yn fawr a bach. Ymysg y ffosilau ysblennydd sydd i’w gweld yn y Parc Cenedlaethol mae cwrelau Lithostrotion. Yn aml mae eu manylion mewnol cymhleth wedi eu diogelu mewn modd hardd.
Mae yna fand o galchfaen carbonifferaidd yn ymestyn ar draws y Parc Cenedlaethol o Blorens yn y dwyrain hyd Garreg Cennen yn y gorllewin. Yn y gwregys tenau hwn o dir calchfaen, 45 milltir o hyd ond prin yn fwy na milltir o led, ceir rhai o’r ogofâu mwyaf trawiadol ym Mhrydain.
Yr ogofâu cyntaf
Mae calchfaen yn hydawdd mewn dŵr sydd ychydig yn asidig, a dyna’r math o ddŵr sy’n rhedeg oddi ar ddaear fawnog bryniau’r Parc Cenedlaethol. Drwy weithio’i ffordd i mewn i graciau bach yn y graig, mae’n eu lledu dros amser gan greu rhwydwaith o holltau a thiwbiau. Pan fo’r llwybrau cydgysylltiol hyn yn cyrraedd graddfa benodol, rydym yn eu hystyried fel rhwydwaith ogof.
Mae’r ogofâu yn ffurfio ar hyd gwastadau haenu, haenau o graig, ac ar hyd holltau fertigol. Mae’r holltau yma yn y graig wedi bodoli ers miliynau o flynyddoedd - o’r cyfnod pan yr ymestynnwyd a gwasgwyd De Cymru yn olynol wrth i gyfandiroedd wrthdaro yn erbyn, a gwahanu oddi wrth, ei gilydd. Mae cwymp to hefyd yn chwarae rhan yn natblygiad ogof dros filoedd o flynyddoedd.
Mae dŵr yn llifo i lawr llethrau deheuol yr hen fryniau tywodfaen coch, cyfarwydd, yn y gogledd. Wrth gyfarfod â’r calchfaen, mae’n diflannu o dan y ddaear. Gan fod y rhan fwyaf o greigiau’r Parc Cenedlaethol yn goleddu’n araf tuag at Faes Glo De Cymru, mae nifer o ogofâu yn dilyn y rhediad yma tua’r de. Maent hefyd yn ymestyn ar draws o’r dwyrain i’r gorllewin nes iddynt ymddangos yn un o’r prif gymoedd sydd wedi eu cerfio drwy’r calchfaen.
Y dirwedd carst
Mae’r cefn gwlad hyn â’i galchbalmentydd, ogofâu, dyffrynnoedd sych a llyncdyllau yn cael ei adnabod fel tirwedd carst. Daw’r enw o’r ardal glasurol, Karst, yn Slofenia. Mae ein hardal ni yn gwahaniaethu o ardaloedd carst eraill Prydain gan fod iddi lai o galchbalmentydd ond llawer mwy o lyncdyllau (sef pantiau a ffurfir lle mae dŵr arwyneb yn golchi’r clog-glai sy’n gorchuddio’r calchfaen i lawr i holltau neu agennau yn y calchfaen). Mae’r rhain yn bresennol yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt, ar yr olwg gyntaf, yn ardaloedd calchfaen.
Er bod ardaloedd fel Mynydd Llangynidr a Mynydd Llangatwg yn llwyfandiroedd carreg grut, nid yw’r calchfaen yn bell iawn o dan yr arwyneb ac mae’r cwymp o rannau o ogof o fewn y calchfaen yn arwain at grater yn ymddangos ar wyneb y ddaear. Mae rhai yn hynod o drawiadol ac yn 60 metr o led ac 20 metr o ddyfnder!