Skip to main content

Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu

Os oes well gennych chi ddŵr llonydd na dyfroedd gwylltion, byddwch wrth eich bodd gyda’n camlas. Roedd yn llwybr cludiant pwysig yn yr oes a fu, ond erbyn hyn mae’n llecyn hyfryd i grwydro a diogi ar gychod. Yn heddychlon a gwledig, gyda naws y gorffennol, yn aml fe’i pleidleisir yn gamlas harddaf Prydain. Mae'n ymdroelli drwy ran sylweddol o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan ymweld â threfi a phentrefi difyr a deniadol ar y ffordd.

Mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, a fwydir gan ddyfroedd clir yr Afon Wysg, yn lân a dymunol, er y gall edrych yn fwdlyd ar adegau. Camlas Brycheiniog a'r Fenni oedd yr enw gwreiddiol ar y rhan 35 milltir rhwng Basn Aberhonddu a Basn Pont-y-moel. Mae’i chwrs gwreiddiol bron i gyd wedi’i adnewyddu ac mae’n bosibl teithio ar ei hyd - yr unig ran coll yw darn byr ar y pen uchaf y tu hwnt i Fasn Aberhonddu.

Ym Mhont-y-moel, ger Pont-y-pŵl, fymryn y tu allan i'n Parc, mae hen Gamlas Brycheiniog a'r Fenni yn cysylltu â Chamlas Sir Fynwy a gellir teithio ar ei hyd cyn belled â Basn Pum Loc yng Nghwmbrân. Nid yw’n gysylltiedig â gweddill rhwydwaith camlesi Prydain, ond mae digon i selogion ei fwynhau ar y darn unigol hwn o ddŵr.

Mae ychydig yn llai na rhair milltir o Fasn Aberhonddu i'r loc cyntaf ym Mrynich. Mae pum loc yn agos ar ei gilydd yn Llangynidr ond nid oes yr un loc ar y 23 milltir olaf o Langynidr i Bont-y-moel. Mae'r rhan fwyaf o’r gamlas, yn ddeiliog a heddychlon. Mae'n hyfryd yn y gwanwyn pan fydd y coed yn blaguro, ac yn wych yn yr hydref pan fydd y lliwiau ar eu gorau.

Mae'r gamlas yn dilyn amlinell y llethrau y rhan fwyaf o'i thaith, ac mae’r golygfeydd yn hyfryd. Mae'n mynd drwy bentrefi tlws Pencelli, Talybont a Llangynidr cyn cyrraedd tref fechan, ddiddorol Crucywel gyda’i Bullpit Meadows hyfryd ar lan y dŵr.

Yna, wedi teithio trwy Langatwg, Gilwern, Gofilon a Llan-ffwyst ger y Fenni, mae’n cyrraedd Glanfa ysblennydd Goetre  sydd nepell o ddiwedd y gamlas ym Masn Pont-y-moel. Yn y lanfa, mae marina gyda chychod i'w llogi a chanolfan ymwelwyr, bwyty ac ardal bicnic yr Ymddiriedolaeth Gamlesi ac Afonydd. Mae'n lle arbennig, â chysylltiad agos â Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, un o darddleoedd y Chwyldro Diwydiannol.

Cael hwyl ar ein camlas

Mae'n rhaid i bob cwch sy'n defnyddio Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, gan gynnwys canŵod, gael Trwydded Cychod Dyfrffyrdd Prydain. Mae hon yn cael ei chynnwys yn nhâl aelodaeth Undeb Canŵio Prydain neu Gymdeithas Canŵio Cymru, neu gellir eu prynu gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd (ffôn 0303 040 4040, www.canalrivertrust.org.uk). The funds raised help support this wonderful waterway.

Gellir llogi canŵod, cychod cul a chychod modur bach mewn sawl man ar y gamlas gan gynnwys Basn Aberhonddu, Llangynidr, Gilwern a Glanfa Goetre. Yn ogystal â chychod cul gyda pheiriannau diesel confensiynol, mae gan Castle Narrowboats (ffôn 01873 830,001, www.castlenarrowboats.co.uk) yng Ngilwern gychod cul trydan a chychod dydd trydan, pedair sedd i'w llogi ar gyfer teithio tawel, ecogyfeillgar ar y dŵr.

Wrth deithio ar gwch gul, mae'n cymryd awr neu ddwy i fynd o Aberhonddu i Loc Brynich ac yn ôl, neu saith awr i fynd o Aberhonddu i Langynidr, gan ystyried Twnnel Ashford a lociau Llangynidr.

Os oes well gennych adael i rywun arall gymryd y llyw, gallwch fynd am daith hyfryd ar gwch cul o Fasn Aberhonddu i Loc Brynich. O’r dŵr, mae golygfeydd godidog o'r Bannau Canolog gyda'r Afon Wysg yn pefrio oddi tanynt. Mae teithiau camlas hefyd o Lanfa Goetre.

Llwybrau tynnu a theithiau beic

Gallwch archwilio’r 35 milltir gyfan o'n llwybr tynnu, gan wylio bywyd gwyllt, ac ymweld â thafarndai a mannau picnic ar hyd y ffordd.

O Fasn Aberhonddu, mae llwybr pob gallu, byr, sy’n pasio byrddau gwybodaeth, prosiectau celf gymunedol, ardal bicnic ac ail-gread o dram a dynnir gan geffyl ar ddarn byr o drac.

Basn Aberhonddu yw dechrau Llwybr Taf  Taf (Llwybr Beicio Cenedlaethol 8). Mae rhan gyntaf y llwybr beicio pellter hir a cherdded hwn yn mynd â chi ar hyd y llwybr tynnu heibio olion hen odynau calch. Mae'r daith dair milltir o Aberhonddu i Loc Brynich yn hawdd ac yn hynod o ddymunol. Pa bryd bynnag y byddwch chi'n beicio ar y llwybr tynnu, cofiwch ildio i gerddwyr.

Gwylio bywyd gwyllt

Gallwch wylio pob math o fywyd gwyllt wrth i chi grwydro’r gamlas. Mae hwyaid gwyllt, ieir dŵr, elyrch, ieir bach yr haf a gweision y neidr yn aml i’w gweld ac os fyddwch yn lwcus efallai y gwelwch froga neu las y dorlan. Chwiliwch yn ofalus am famaliaid swil hefyd, fel dyfrgwn, llygod dŵr ac ystlumod. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Gwylio Bywyd Gwyllt, gwylio adar a llwybrau natur.

Bwytai, caffis a thafarndai ar lan y gamlas

Mae nifer o lecynnau hwyliog ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu lle gallwch fwynhau te, peint neu ginio blasus ar lan y dŵr, tra’n gwylio'r cychod cul, beicwyr a hwyaid yn mynd heibio.

Ym Masn Aberhonddu, gallwch wylio’r cychod cul a’r hwyaid wrth i chi fwynhau rhywbeth i’w fwyta ac yfed yn y Tipple 'n' Tiffin, caffi Theatr Brycheiniog, Aberhonddu (www.brycheiniog.co.uk).

Ym mhentref Pencelli, bedair milltir i'r de-ddwyrain o Aberhonddu, ar lan y gamlas mae tafarn y Royal Oak (LD3 7LX) ger Pont Cross Keys (rhif 153). Mae hon yn dafarn glyd sy’n fodern y tu mewn, lle gewch fwyd ardderchog a gardd gwrw sy’n arwain hyd at y llwybr tynnu.

Yn Nhalybont-ar-Wysg, ger Pont Graiglas (rhif 142), mae’r Travellers Rest (LD3 7YP, www.travellersrestinn.com), bwyty deniadol gydag ystafelloedd. Hefyd, ger pont y White Hart (rhif 143) mae’r White Hart Inn (LD3 7JD, www.breconbunkhouse.co.uk) a’r Star Inn (LD3 7YX, www.starinntalybont.co.uk), ill dwy’n dafarndai traddodiadol gyda gerddi cwrw ar lan y gamlas. Mae caffi a bwyty hefyd yng Nglanfa Goetre.


cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf