Diwrnod 1: Y Mynydd Sanctaidd i Landdewi Nant Hodni
Pellter: 22km / 13.5 milltir
Dringfa: 850m / 2790ft
Anhawster: Anodd
Amser: 6 awr
Mae dwy ddringfa yn ystod y diwrnod cyntaf. Mae’r ddringfa gyntaf yn mynd â chi i gopa Yr Ysgyryd (a elwir hefyd y Mynydd Sanctaidd), sy’n codi i 486m. Mae’r ail ddringfa yn eich arwain i Fynydd Cerrig, lle mae’r llwybr yn ymuno â Chlawdd Offa am 4.5km. Efallai y byddwch chi’n lwcus i weld Grugiar sy’n byw ar y gweundir grugog. O’r ddau gopa yma, cewch olygfeydd godidog o’r dirwedd oddi-amgylch. I’r dwyrain mae tir pori Lloegr, i’r gorllewin mae cribau Bannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Du.
Rhwng y ddwy ddringfa, byddwch yn mynd drwy bentref Llanfihangel Crucornau Fawr, lle mae tafarn sy’n dyddio’n ôl i’r Unfed Ganrif ar Ddeg. Mae’r daith yn gorffen ym Mhriordy Llanddewi Nant Hodni, adfail sy’n dyddio’n ôl i 1103.
Cyfarwyddiadau:
Mae’n taith yn dechrau i’r gogledd o orsaf drenau Y Fenni, gan groesi stadau tai, ac yna allan o’r dref, cyn mynd o dan bontydd rheilffordd/ffordd. Ewch yn eich blaen ar hyd y lôn nes i chi weld ffordd ag arwyddion, sy’n mynd â chi drwy ddwy ran o’r cwrs golff. Mae’n eich arwain chi at lôn arall, gan droi i’r chwith i fyny llwybr cul rhwng y tai i Faes Parcio’r Ysgyryd Fawr (SO 328 165).
Ystyr y gair Cymraeg ‘Ysgyryd’, (sydd ddim yn cael ei ddefnyddio heddiw) yn fwy na thebyg ydy ‘wedi hollti’ neu ‘fforchog’.
Gall y llwybr i lawr ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol fod yn anodd ei ddarganfod, ond mae’n eich arwain chi i lawr at gât ceffyl ac i lwybr amlwg drwy’r caeau. Yn y lôn, trowch i’r dde, yna ar ôl 300m, trowch i’r chwith drwy gaeau sy’n arwain at Lanfihangel Crucornau Fawr. Croeswch y ffordd fawr brysur yn ofalus. Ewch i fyny’r ail a dilyn y ffordd i’r dde, heibio i un o dafarnau hynaf yng Nghymru, ac yna i’r chwith i lawr y bryn. Mae’r fforch i’r dde yn y ffordd yn dod â chi o dan lein y rheilffordd. Trowch i’r chwith, yna i’r dde ar lwybr sy’n ymuno â Chlawdd Offa am 500m. Yna, ewch yn syth ar draws y caeau i’r bryn agored. Mae’r grib yn arwain y llwybr drwy fryngaer, heibio i’r hen loc ac ar i fyny i biler triongli Mynydd Cerrig.
Dilynwch ben y grib i lawr i’r cyfrwy, ac oddi yno, dilynwch y llwybr oddi ar y chwith sy’n dilyn y wal derfyn. O dipyn i beth, bydd hwn yn arwain i lawr drwy gaeau, at Briordy Llanddewi Nant Hodni.
Mae llety a dwy dafarn i’w cael yn y pentref bach