Gweithgareddau
Os ydych chi’n mwynhau’r awyr agored, byddwch chi wrth eich bodd ym Mannau Brycheiniog.
Mae ein Parc Cenedlaethol yn lle gwych i fwynhau gwneud pethau. Dyma dirwedd fyw, yn llawn o bobl sy’n gweithio ar y tir, heb ddim i’ch dal yn ôl – dewch o hyd i’ch ochr anturus!
Ceir llwythi o lwybrau ar gyfer cerddwyr, rhedwyr, beicwyr, beicwyr mynydd, marchogaeth a gwylio byd natur. Mae dewis ardderchog o weithgareddau ffurfiol ar gael hefyd, yn bethau hamddenol megis ffotograffiaeth ac yn chwaraeon anturus megis paragleidio, rafftio ac abseilio.