Hwylio • Cychod • Syrffio gwynt
Mae sawl ffordd o fwynhau eich hun ar y dŵr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Hwylio dingi a bordhwylio ar Lyn Syfaddan
Mae Llyn Syfaddan, llyn naturiol mwyaf Cymru, yn un o’r lleoliadau prydferthaf posibl i hwylio. Gydag arwynebedd o 400 erw, mae’r llyn mewn hen hafn rewlifol rhwng Bannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Du.
Cewch lansio’ch cwch eich hun o lithrfa wrth y llyn. Codir tâl am hyn, naill ai’n flynyddol neu’n ddyddiol yn y Ganolfan Logi Cychod (ym Maes Carafanau a Gwersylla Lakeside, Comin Llan-gors, LD3 7TR, tel. 01874658226, www.llangorselake.co.uk) ar lan ogledd-orllewinol y llyn, a dyma unig asiant Cwmni Rheoli’r llyn. Gellid llogi cychod dingi, bordhwyliau ac offer eraill yno. Mae parthau ar y llyn ar gyfer mathau gwahanol o gychod ac offer.
Neu gallwch ymweld â Chlwb Hwylio Syfaddan/Llan-gors sydd hefyd ar Gomin Llan-gors. Gall ymwelwyr o glybiau eraill ymuno am wythnos tra ar wyliau yma, a chael mynediad i’r llyn a chyfleusterau llogi a storio cychod. Cynhelir rasys ar Suliau o Fawrth hyd Dachwedd.
Mae’r Clwb yn Ganolfan Hyfforddi gyda’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) ac yn cynnig ystod eang o gyrsiau hwylio ar gyfer dechreuwyr a rhai sy’n datblygu yn y grefft. Cynhelir hefyd ddau Ddiwrnod Hwyl hynod boblogaidd a llwyddiannus ar gyfer teuluoedd a phobl ag anableddau.
Hwylio dingi a bordhwylio ar Gronfa Ddŵr Pontsticill
Gallwch hefyd hwylio yng Nghronfa Ddŵr Pontsticill, sy’n lleoliad eithriadol hardd yn y mynyddoedd ger Merthyr Tudful. Dyma gartref Clwb Hwylio Merthyr Tudful ( www.mtsc.org.uk), sy’n hwylio yma ar benwythnosau drwy gydol y flwyddyn ac ar nosweithiau Mercher yn ystod yr haf. Cynigir aelodaeth tymor-byr i ymwelwyr. Cysylltwch â’r Clwb cyn i chi alw, gan y bydd angen i rywun ddatgloi’r glwyd i roi mynediad i chi.
Mae gan y Clwb ddingi hyfforddi RS Vision, a gall aelodau newydd ei ddefnyddio i ddysgu’r grefft o dan hyfforddiant aelodau’r Clwb. Ceir hefyd gyfleusterau ar gyfer hwylwyr anabl. Cynhelir rasys ar Suliau o Fawrth hyd Dachwedd.
Cofiwch, os gwelwch yn dda, na chaniateir nofio yng nghronfeydd dŵr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - ni ddylech fod yn nŵr cronfa o gwbl oni bai bod eich cwch wedi troi drosodd yn ddamweiniol neu eich bod yn rhan o ymarferiad neu hyfforddiant achub.
Cychod
Os hoffech fynd allan mewn cwch am awr neu ddwy, pam lai?
Gallech adeiladu cwrwgl a’i roi ar lyn hwyaid! Neu gallech logi cwch rhwyfo neu bedalo ar Afon Wysg yn Aberhonddu.
Cewch lansio’ch cwch eich hun o lithrfa Camlas Mynwy ac Aberhonddu, neu fynd ag ef i Lyn Syfaddan, lle mae cychod rhwyfo, cychod pysgota a phedalos i’w llogi (codir tâl am lansio o’r ddau le).
Os hoffech daith dawel a hamddenol ar hyd y gamlas, gellwch drefnu taith awr neu ddwy mewn cwch cul o Aberhonddu ar bron unrhyw ddydd ym misoedd yr haf, gan deithio o Aberhonddu i Frynich ac yn ôl, gyda lluniaeth ar y cwch yn gynwysedig.
I wneud gwyliau iawn ohoni, gellwch logi cwch cul trydanol neu gwch dydd ar y gamlas, a phrofi antur carbon-isel.
Byddwch yn barod, yn gyfrifol a chadwch yn ddiogel
Am gyngor pwysig ar arfer da a diogelwch, gan gynnwys y drefn Gwirio, Glanhau, Draenio a Sychu, edrychwch ar ein hadran:Byddwch yn Barod a Chadwch yn Ddiogel.