Skip to main content

Degawd o dywyllwch.

Dathlu deng mlynedd o awyr dywyll 

Oherwydd y lefelau isel o lygredd golau, dyfarnwyd statws Gwarchodfa Awyr Dywyll i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2013, gan ei gwneud yn un o’r llefydd gorau yn y byd i syllu ar y sêr. 

Eleni, i ddathlu deng mlynedd o awyr dywyll, rydym yn lansio ymgyrch i wneud i’r sêr sgleinio’n fwy llachar. O 19:30 i 20:30 ddydd Gwener Chwefror 17 rydym yn gofyn i fusnesau a phreswylwyr y Parc Cenedlaethol i ddiffodd eu goleuadau. 

Mae lefelau isel o lygredd golau nid yn unig yn dda ar gyfer syllu ar y sêr, ond mae hefyd yn allweddol i fywyd gwyllt y nos ac er lles i ddynoliaeth. 

Mae lleihau llygredd golau yn cadw'r rhythm circadaidd (ein cloc corfforol) i weithredu fel arfer. Pan derfir ar y rhythm gall achosi newidiadau meddyliol, corfforol ac ymddygiadol. 

Mae bywyd gwyllt hefyd angen cylched circadaidd, yr un peth a bodau dynol.  Mae llawer o rywogaethau'r nos, fel draenogod a gwyfynod yn lleihau mewn niferoedd. Bydd ystlumod yn newid eu llwybrau i osgoi golau artiffisial, a gall hyn effeithio ar eu gallu i hela ac osgoi  ysglyfaethwyr. Trwy leihau llygredd golau gallwn helpu i amddiffyn bywyd gwyllt y nos. 

Cymrwch ran yn ein hymgyrch i ddiffodd y golau ar hyd y Parc Cenedlaethol ar Chwefror 17! Helpwch ledaenu’r gair gyda’r adnoddau hyn; 

          

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda communications@beacons-npa.gov.uk 

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf