Skip to main content

Llwybrau Beicio Ffordd

Mae ein ffyrdd yn cynnig y diwrnod perffaith i fynd allan, mae gennym ddringfeydd mawr, golygfeydd godidog i’w mwynhau, disgynfeydd llawn cyffro a digon o gaffis cynnes a thafarndai gwledig er mwyn ail-lenwi’r tanc.

Bannau Brycheiniog yw cartref ‘Y Tymbl’ sef y ddringfa chwedlonol 6km o hyd ar oleddf o 10% sydd wedi ei rhestru fel un o ddeg dringfa feicio gorau gwledydd Prydain.

Mae dau Lwybr Beicio Cenedlaethol pellter hir yn croesi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Taith Taf a Lôn Las Cymru yn ogystal â llawer o lwybrau eraill gan gynnwys Beicio’r Bannau. Boed eich bod yn cynllunio taith dros ychydig ddyddiau neu’n cychwyn ar daith 300 milltir a mwy, mae ein Parc yn lle cyfleus, llawn golygfeydd i ddechrau neu orffen eich taith.

Chwiliwch am ein llwybrau i’ch ysbrydoli i gynllunio’ch antur nesaf.

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf