Golff
Mae ’na 8 cwrs golff tu mewn ac o amgylch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys safle Cwpan Ryder 2010, y Celtic Manor.
Os ydych yn mwynhau chwarae golff mewn ardal brydferth llawn bryniau a mynyddoedd, yna Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw’r lle i chi ar gyfer gwyliau i chwarae golff.
Darganfod mwy
Clwb Golff Cradoc, 2 filltir i’r Gogledd o Aberhonddu, mae ganddo 18 twll ynghyd â chlwb cyfeillgar. Hwn o bosib yw’r cwrs mwyaf golygfaol yng Nghymru.
Mae gan Golff Canolog Cymru ( www.walesgolfcentral.co.uk) fanylion llawn am gyrsiau a chlybiau yng Nghymru, gan gynnwys gwybodaeth am gyrsiau, cynigion ffioedd ac argaeledd aelodaeth.
Mae gan Undeb Golff Cymru (www.golfunionwales.org) newyddion am bencampwriaethau.
Mae gan Datblygu Golff Cymru (www.golfdevelopmentwales.org) wybodaeth gyffredinol ynglŷn â’r gêm gan gynnwys manylion clybiau, cyrsiau a thwrnameintiau.