Skip to main content

Canolfannau Iechyd, Ffitrwydd a Hamdden

Dewch draw i un o’n canolfannau lleol cyfeillgar i ymarfer corff, i nofio, neu ar gyfer sesiwn chwaraeon.

Gall ymarfer corff cyson eich gwarchod rhag afiechyd y galon a strôc, pwysedd gwaed uchel, clefyd y siwgr, gordewdra, poen cefn ac osteoporosis. Gall hefyd wella eich hwyliau a’ch helpu i reoli straen a phryder.

Am y manteision iechyd gorau, mae arbenigwyr yn argymell eich bod yn gwneud rhwng 20 a 30 munud o weithgaredd aerobic tair gwaith yr wythnos neu fwy a rhyw fath o weithgaredd cryfhau cyhyrau ac ymestyn o leiaf dwywaith yr wythnos.

Fodd bynnag, os nad ydych chi’n gallu dygymod â’r lefel yma o weithgarwch, ceir manteision iechyd sylweddol drwy dreulio 20 munud neu fwy’n gwneud gweithgareddau corfforol dwysedd-cymedrol mewn diwrnod, o leiaf pum gwaith yr wythnos.

Os nad ydych chi wedi bod yn actif am gyfnod, mae’n bosib y byddwch chi eisiau cychwyn gyda gweithgareddau llai egnïol fel cerdded neu nofio mewn lle cyfforddus. Drwy gychwyn yn araf deg, mi fyddwch chi’n gallu dod yn fwy corfforol iach heb osod straen ar eich corff. Unwaith rydych chi mewn gwell siâp, yn raddol gallwch chi wneud gweithgareddau mwy egnïol.

Canolfan Hamdden y Fenni

Old Hereford Road, Y Fenni NP7 6EL, Cymru, ffôn 01873 857444,www.abergavenny.net/leisure

Ar agor yn ddyddiol oni bai am wyliau gŵyl y banc, Dydd Llun-Gwener 7yb-10yh, Dydd Sadwrn-Sul 8.15yb-6yh
Cyfleusterau’n cynnwys:

  • pwll nofio
  • ystafell ffitrwydd
  • neuadd chwaraeon pedwar cwrt amlbwrpas
  • pedwar cwrt astroturf maint llawn, ardal gemau aml-ddefnydd
  • dau gwrt sboncen
  • campfa amlbwrpas
  • amryw o gaeau tu allan

Canolfan Hamdden Aberhonddu

Penlan, Aberhonddu, LD3 9SR, Cymru, ffôn 01874 623677, www.brecon-leisurecentre.powys.gov.uk

Ar agor Ddydd Llun-Gwener 6.45yb -10yh, Dydd Sadwrn-Sul 9yb -5yh, gwyliau’r banc 10yb -2yh
Cyfleusterau’n cynnwys:

  • pwll nofio
  • pwll dysgu
  • ystafell ffitrwydd
  • prif neuadd chwaraeon
  • neuadd gweithgareddau
  • bowlio dan do
  • cyrtiau sboncen
  • trac athletau
  • cae astroturf
  • cyfarfodydd a chyrsiau
  • meetings and courses
  • cyrtiau tennis
  • siop goffi, Dydd Llun-Gwener 9yb-7yh, Dydd Mercher 9yb-6yh, Dydd Iau-Gwener 9yb-5.30yh, Dydd Sadwrn 9.30yb-5yh, Ar gau ar Ddydd Sul a gwyliau banc

Canolfan Gymunedol Cefn Coed

New Church St, Merthyr Tudful CF48 2NA, Cymru, ffôn

Cyfleusterau/dosbarthiadau’n cynnwys:

  • yoga
  • cicfocsio

Canolfan Chwaraeon Crucywel

New Road, Crucywel NP8 1AW, Cymru, ffôn 01873 810997

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • cae hoci bob tywydd
  • wiced griced artiffisial
  • neuadd chwaraeon, wedi’i marcio ar gyfer:
  • badminton
  • pêl-droed pump bob ochr
  • pêl-foli
  • pêl-fasged
  • badminton
  • tennis byr
  • pêl-rwyd
  • ystafell ffitrwydd, Dydd Llun-Gwener 6-10yh, ar gau ar Ddydd Sadwrn, Dydd Sul 10yb-1yh

Canolfan Chwaraeon Gwernyfed

Three Cocks, Aberhonddu LD3 0SG, Cymru, ffôn 01497 847740

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • ystafell ffitrwydd
  • neuadd chwaraeon
  • cae amlbwrpas

Clwb Iechyd Gym a Thonig

10 Broad Street, y Gelli HR3 5DB, Cymru, ffôn 01497 822995,

Pwll Nofio y Gelli Gandryll

Oxford Road, Y Gelli Gandryll, HR3 5BT, Cymru, ffôn 01497 820431

Gadewch neges os gwelwch yn dda gan fod staff fel arfer yn eithaf prysur yn achub bywydau neu’n dysgu.
Ar agor Dydd Lluniau 6-10yh, Dydd Gwener 6-9yh

Manor Hotel

Brecon Road, Crickhowell NP8 1SE, Cymru, ffôn 01873 810212

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • pwll wedi’i gynhesu, 8m x 4m
  • sawna
  • ystafell stêm
  • jacuzzi
  • campfa

Gwersyll Ymarfer New You

Wern Watkin Hillside, Llangadog, Crucywel NP8 1LG, Cymru, ffôn 0871 223 0066

Y gorau am ffitrwydd a cholli pwysau. Cawsant eu gwobrwyo’n ddiweddar fel Gwersyll Ymarfer Gorau’r Byd

Peterstone Court

Llanhamlach, Aberhonddu LD3 7YB, Cymru, tel 01874 665387

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • spa
  • jacuzzi
  • sawna
  • pwll awyr agored wedi’i gynhesu, ar gau yn ystod misoedd y gaeaf
  • campfa

Canolfan Chwaraeon Pontsenni

Pontsenni, Aberhonddu, LD3 8RS, Cymru, ffôn 01874 636512

Prydferthwch a Ffitrwydd SMB

St. Marys Street, Aberhonddu LD3 7AA, Cymru, ffôn 01874 611652

Cyfleusterau’n cynnwys:

  • ystafell ffitrwydd
  • triniaethau harddwch

Canolfan Chwaraeon Ystradgynlais

Glanrhyd, Ystradgynlais SA9 1AP, Wales, tel 01639 844854

Ar gau dydd Sul
Cyfleusterau’n cynnwys:

  • ystafell Ffitrwydd
  • neuadd chwaraeon amlweithgaredd
  • astroturf maint llawn ar gael i’w logi, nosweithiau a phenwythnosau
  • sawna
  • pwll nofio, 25m

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf