LAWR I’R MÔR
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mewn partneriaeth â Glandŵr Cymru, wedi lansio cyfres newydd, cyffrous o fideos byr wedi eu hanimeiddio sy’n datgelu stori hanesyddol Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a fydd yn annog pobl i ymweld â thirnodau hanesyddol.
Ariannwyd prosiect “Lawr i’r Môr” yn rhannol drwy Lywodraeth Cymru, ac fe’i cynhyrchwyd gan Brickwall.
Mae’r animeiddiadau’n canolbwyntio ar bedair tramffordd: tramffordd y Gelli, tramffordd Brynoer, tramffordd Llam- March a thramffordd y Bryniau.
Mae pob animeiddiad yn dangos y rhesymau pam yr adeiladwyd y gamlas yn y lle cyntaf a sut gall ymwelwyr a thrigolion lleol wylio’r animeiddiadau ac ymweld â’r atyniadau a gyflwynir.
Beth am ymweld ag atyniadau fel yr odynau calch ger glanfa Watton yn Aberhonddu, neu fynd am dro i fyny tramffordd Brynoer yn Nhal-y-bont ar Wysg?
Mae’n rhaid ymweld â gwaith haearn Blaenafon a Chanolfan Treftadaeth byd Blaenafon, a pheidiwch ag anghofio mynd am dro i weld gwaith haearn Clydach a Chwarel Llanelly.
Mae’r llwybrau cerdded yn addas ar gyfer teuluoedd a bydd yn galluogi i blant ymgysylltu â’r gorffennol diwydiannol mewn modd cadarnhaol.