Anturiaethau tanddaerarol
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Ne Cymru yw un o’r ardaloedd ogofa mwyaf cyffrous ac amrywiol ym Mhrydain. Mae ein Geoparc yn cynnwys pedwar o'r pum system ogofâu calchfaen hiraf ym Mhrydain. Beth am archwilio’r byd tanddaearol difyr hwn? Gallwch ogofa gyda hyfforddwyr neu dywysydd arbenigol
Golygfeydd dan ddaear
Os nad ydych yn hollol barod i ymrwymo i'r profiad ogofa llawn mae Canolfan Ogofau Dan yr Ogof yn cynnig cyfle gwych i archwilio ogofâu ac edmygu ffurfiannau’r creigiau..
Os oes gennych awydd ymgolli yng ngorffennol diwydiannol Cymru dylai Big Pit fod at eich dant. Mae'n agos at ffin ddeheuol y Parc a'r prif atyniad yw’r pwll tanddaearol, ond peidiwch ag anghofio’r orielau ar y bryn – maent werth eu gweld.
Gwybodaeth gyffredinol
Mae ein hogofâu a’n ceudyllau wedi bod yn ffurfio’n dawel, o’r golwg dan ddaear, am filoedd lawer o flynyddoedd. Mae ymwelwyr o bob cwr o'r byd yn dod i dde-orllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i archwilio’r mannau rhyfeddol hyn ac i deimlo’r wefr o ddarganfod. I rai, dyma'u taith ogofa gyntaf erioed, tra bo gan eraill flynyddoedd lawer o brofiad.
Gan fod ogofa’n weithgaredd a all fod yn beryglus, dylai ogofwyr amhrofiadol fod â hyfforddwr neu arweinydd cymwys gyda nhw bob amser. Mae’n rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan glybiau ogofa lleol, sydd â phrofiad amhrisiadwy, er mwyn cael mynediad i rai o systemau ogofâu mwy’r Parc Cenedlaethol. Hefyd mae nifer o ganolfannau awyr agored ac arbenigwyr ym Mannau Brycheiniog sy'n cynnig profiadau ogofa.
Profiadau ogofa
1. Sesiynau blasu (i ddechreuwyr))
Bydd dechreuwyr, angen Arweinydd Ogofa profiadol a chymwys. Gall ein cwmnïau gweithgareddau awyr agored niferus eich helpu. Archebwch hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, a gallwch ddysgu sgiliau ogofa llorweddol a fertigol, drwy ymweld â safleoedd sy'n cael eu cymeradwyo ar gyfer dechreuwyr.
2. Sesiynau gwella (ar gyfer rhai sy’n dychwelyd ac yn gwella’u sgiliau)
Wedi cael blas ar ogofa, mae llawer yn awyddus i roi cynnig ar sialens mwy heriol ac ymweld â mwy o amrywiaeth o ogofâu. Mae angen gwasanaeth Hyfforddwr Ogofa cymwys ar gyfer hyn. Gall aelod o’r Gymdeithas Hyfforddwyr Ogofa (www.caveinstructor.org.uk) sydd â Thystysgrif Hyfforddwr Ogofa fynd â chi i systemau ogof mwy neu anarferol a gallant eich addysgu yn y dechneg rhaff sengl ar gyfer ogofâu fertigol.
3. Profiadau annibynnol (ar gyfer selogion ac arbenigwyr)
Mae pob un ond llond llaw o ogofâu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn hygyrch i’r ogofwyr profiadol gyda gwybodaeth leol yn unig neu gyda chymorth arweinydd lleol arbenigol. Mae llawer ohonynt dan reolaeth clybiau ogofa unigol. Mae rhestr o glybiau ogofa i'w chael ar wefan Cyngor Ogofa Cymru (www.cambriancavingcouncil.org.uk).
I ddysgu mwy
I ddysgu mwy am ddaeareg unigryw gorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ewch i'n hadran Ogofâu a gwefan Geoparc y Fforest Fawr, www.fforestfawrgeopark.org.uk.