Hynafolion
Mae’r llefydd gorau yn ein hardal ar gyfer dod o hyd i bethau hynafol megis clociau, celfi allan o dderw a llestri arian yn cynnwys Llandeilo, Y Gelli ac Aberhonddu.
Os ydych yn chwilio am rywbeth arbennig, dechreuwch trwy fynd i gyfeiriad Llandeilo. Dylech chi edrych o amgylch y gweithiau yn Heol yr Orsaf, sy’n gartref i dros 55 o ddelwyr hen bethau a dyma’r farchnad hen bethau mwyaf yn Ne Orllewin Cymru. Mae rhagor o siopau hen bethau i bori ynddynt gerllaw. Neu, gallech brofi boddhad y we daclus o strydoedd.
Mae dodrefn, paentiadau, cerameg a bric-a-brac hefyd yn cael eu gwerthu yn y siopau hen bethau, canolfannau hen bethau ochr y ffordd ac fe welwch farchnadoedd rheolaidd wedi’u gwasgaru ar hyd a lled yr ardal.
Mae arwerthiannau yn cael eu cynnal yn fisol ar gyrion Aberhonddu (cysylltwch â McCartneys, Ffôn 01874 622386) a phob pythefnos yn Llandeilo (Michael Jones, 01558 823430).
Yn olaf, mae Ffair Ryngwladol Hen Bethau Cymru yn dod i safle Sioe Frenhinol Cymru, i’r gogledd o Fannau Brycheiniog, dwywaith y flwyddyn ym mis Mai ac yn gynnar ym mis Medi.