Mae un arall o’n trefi marchnad ni, Aberhonddu yn sefyll lle mae Afon Honddu yn ymuno ag Afon Wysg. Aberhonddu yw’r lle i fynd os yw’r awyr yn llwyd a glaw ar y gwynt. Ond mae’r croeso yma wastad yn gynnes waeth beth yw’r tywydd.
Fe’i codwyd yn wreiddiol gan y Rhufeiniaid fel canolfan filwrol, a thyfodd y dref yng nghysgod y castell Normanaidd a warchodai’r rhyd, sef un o’r mannau croesi prin ar hyd Afon Wysg. Erbyn heddiw mae strydoedd lliwgar y dref a’r adeiladau Sioraidd, deniadol yn atgof o gyfnodau a fu.
Sut i gyrraedd yno
Edrychwch ar sut i gyrraedd yma am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
Bws: www.travelinecymru.co.uk
Cyfeirnod grid AO: Explorer Map OL12 neu Landranger Map 160 – SO 046287
Pethau i’w gweld a’u gwneud yno
Gwerthfawrogi hynodrwydd y Gadeirlan o’r G11, a fu gynt yn briordy yn ogystal
Ymweld ag Amgueddfa Filwrol Cyffinwyr De Cymru
Siopa yn y llu o siopau annibynnol neu unwaith y mis ym Marchnad Ffermwyr Brycheiniog
Cewch eich rhyfeddu yn ‘Y Gaer’ sef ein hyb diwylliannol: amgueddfa, oriel gelf a llyfrgell yn un
Ewch am dro lawr i Fasn y Gamlas i flasu’r diwylliant sydd ar gael yn Theatr Brycheiniog
Gwyliwch y ffilm ddiweddaraf yn ein sinema glasurol yn arddull y 1930au
Ewch i godi chwys neu i nofio yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu
Ewch i hamddena ar hyd un o’r amryfal lwybrau cerdded sydd ar hyd glan yr afon a’r gamlas
Mentrwch ychydig ymhellach ar droed neu ar gefn beic ar hyd Taith Dyffryn Wysg neu Daith Taf
Mwynhewch guriadau diguro Gŵyl Jazz Aberhonddu
Rhagor o wybodaeth
Canolfan Groeso Aberhonddu: 11 Lion Yard, Aberhonddu, Powys LD37BA neu 01874 620860