Castell hudol, hardd, yn llawn awyrgylch – ydy, mae Carreg Cennen fel pe bai wedi ymddangos allan o fyd hud a lledrith ein chwedlau.
Ewch am dro i weld yr adfeilion rhamantaidd, sydd yn cael eu cwipio gan yr elfennau, ar ben craig galchfaen serth uwchben afon Cennen ym mhen gorllewinol y Parc Cenedlaethol. Wedi ei greu a’i addasu’n gelfydd i’w leoliad ar gopa’r bryn creigiog, caiff ei glostir a’i furiau uchel eu gwarchod gan gyfres o byllau, pontydd codi a phorthdai. Mae’n amhosib cyrraedd y castell o’r cyfeiriad arall, gan ei fod yn sefyll ar ymyl clogwyn serth 100m o uchder.
Sut i gyrraedd yno
Cod post sat nav: SA19 6UA ger pentref Trap
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans: OL12 neu Fap Landranger 159 – SN669019
P – lle parcio anabl hefyd
Bws a thrên: Llandeilo 5km/3 milltir i ffwrdd – llwybr 280/281 – www.cymraeg.traveline.cymru
Oriau agor
1 Ebrill – 31 Hydref: 9.30am – 6pm bob dydd
1 Tachwedd – 31 Mawrth: 9.30am — 4.30pm bob dydd ac eithrio dydd Nadolig
Cyfleusterau
Hygyrchedd: Mae’r llwybr o’r maes parcio at odre’r castell yn gymysgedd o lawrlechi, llwch cerrig anwastad a tharmac o raddiant amrywiol. Mae llethr glaswelltog, gweddol serth, yn arwain i fyny at adfeilion y castell. Os na allwch chi gyrraedd y castell ei hun, mae llwybr llwch cerrig, graddiant 1:12, yn arwain at safle picnic bach ger y dolydd ac mae yno olygfeydd braf o’r castell.
Pethau i’w gweld a’u gwneud
Crwydro’r rhagfur cywrain sy’n cael ei warchod gan dyrau dwbl,
Mwynhau’r golygfeydd godidog,
Esgus bod yn un o wylwyr y porthdy sy’n barod i ollwng bwcedi o ddŵr a cherrig ar unrhyw dresmaswyr sydd wedi llwyddo i sleifio drwy amddiffynfeydd eraill y castell,
Mentro gyda thortsh i’r twnnel tanddaearol i weld yr ogof naturiol a fu unwaith yn stordy a daeargell, a dychmygu’ch hun yn garcharor yno.