Mae’r castell hwn yn nhref enwog y ffin wedi bod trwy gyfnodau o lanw a thrai ar hyd y canrifoedd, ac mae iddo hanes o gynnen rhwng gwŷr y gororau a thanau dinistriol.
Bydd ymweliad â’r castell fel mynd ar garlam drwy hanes – gyda’r daith yn mynd â chi o gythrwfl y cyfnod canoloesol cynnar i heddwch oes Fictoria, pan oedd y plasty cysylltiedig yn rheithordy. Er mwyn profi hanes lliwgar y castell yn ei holl ogoniant, dewch yma yn 2020 pan fydd prosiect adfer cyffrous Ymddiriedolaeth Castell y Gelli, dan law’r perchnogion presennol, wedi’i gwblhau.
Sut i gyrraedd yno
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans: Map Explorer OL13 neu Fap Landranger 160 – SO229423
P – Heol Rhydychen HR3 5EQ
Mae Parc Gwledig Craig y Nos wedi ei…