Un o’r perlau ar hyd Afon Gwy, mae Gelli Gandryll yn adnabyddus ym mhob cwr o’r byd am ei llyfrau.
Gyda’r afon yn llifo’n urddasol ar hyd ochr gogledd-orllewinol y dref, mae’r Gelli yma yn ffinio â Lloegr. Does dim dwywaith mai’r siopau llyfrau ail-law a lleoliad yr Ŵyl Lenyddol flynyddol sydd wedi rhoi’r lle ar y map, ond mae mwy na hynny i’r dref fach hon. Mae Gelli Gandryll yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer crwydro rhan ogleddol y Mynyddoedd Duon, felly dewch draw i ddarganfod rhai o’r pethau difyr sydd yma.
Sut i gyrraedd yno
Edrychwch ar sut i gyrraedd yma am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
Bws: www.travelinecymru.co.uk
Pethau i’w gweld a’u gwneud yno
Crwydro ac oedi yn y llu o siopau llyfrau ail-law a’r siopau hen greiriau
Galw yn y siopau dillad annibynnol, y siopau bwyd a’r siopau crefft
Picio i un o’r marchnadoedd rheolaidd
Mynd am dro ar hyd yr afon i’r Warin
Ymuno â Thaith Dyffryn Gwy tua’r dwyrain neu’r gorllewin neu Lwybr Clawdd Offa tua’r de neu’r gogledd
Cadw eich clust yn agos i’r ddaear i glywed unrhyw newyddion am y project cyffrous i adnewyddu Castell Gelli Gandryll
Gŵyl y Gelli
Gŵyl Gerdded y Gelli
Rhagor o wybodaeth
Canolfan Groeso, Oxford Rd, Gelli Gandryll, Henffordd HR3 5DG 01497