Hysbysiad Preifatrwydd
Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn edrych ar ôl eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys:
- Y wybodaeth y dywedwch wrthym am eich hunan.
- Gwybodaeth a ddysgwn amdanoch drwy eich cael fel cwsmer neu gyflenwr, cyflogai, gwirfoddolwr, defnyddiwr gwasanaeth, cefnogwr neu wrth gyflawni ein dyletswyddau rheoleiddio fel awdurdod cyhoeddus
- Y dewisiadau a rowch i ni ynghylch pa farchnata neu wybodaeth am yr Awdurdod y dymunwch i ni ei roi i chi.
Mae’r hysbysiad hwn yn egluro sut yr ydym yn gwneud hyn, ac yn eich hysbysu am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn. Gall yr hysbysiad hwn newid o bryd i’w gilydd, felly cymerwch olwg ar ein gwefan o droi i dro er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau.
Pwy ydym ni
Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei greu yn awdurdod lleol dibenion arbennig annibynnol o dan y Ddeddf Amgylchedd 1995 (y Ddeddf).
Gallwch ddarganfod mwy amdanom ni yma .
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o fanylion am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.
01874 624 437
Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas Y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
LD3 7HP