Skip to main content
Distance icon

Pellter
7.2km / 4.47milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SO218183
Postcode NP8 1AD

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)

Time icon

Approximate time
3 awr

4

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Cafe icon
  • Shopping icon
  • Parking icon
  • Disabled parking icon
  • WC icon
  • WC icon

Awydd cyflymu’r galon wrth i chi gerdded drwy harddwch cefn gwlad ac yna’n goron ar y cyfan, cael mwynhau golygfeydd godidog o’r copa? Bydd yr ymdrech o gerdded yr esgyniad byr ond gweddol serth i gopa Crug Hywel ar uchder o 380m gan edrych dros Grucywel yn talu ar ei ganfed. Llwybr gradd 4 yw hwn: Gall y llwybr fod yn gyfyng â goleddfau serth mewn mannau neu wyneb mwdlyd neu garegog i’r llwybr. Gall gatiau fod yn gyfyng neu efallai y ceir camfeydd. Nid oes llefydd i eistedd.

Of interest

O’r dref islaw mae Crug Hywel yn ymddangos fel pe tai’n goleddfu rhyw gymaint i’r ochr ond o’r copa gallwch edmygu’r dref chwaethus hon sy’n dynodi’r man croesi dros Afon Wysg. Ar ôl dilyn llwybr coediog i fyny gydag ochr Nant Cumbeth fe ddewch allan i’r bryndir agored. Atgof yn unig fydd y dref erbyn hyn wrth i chi dramwyo gydag ochr y wal fynydd i gefn y fryngaer ar y copa. Y fryngaer hon o’r Oes Efydd – Crug Hywel – sy’n amlwg yn rhoi ei enw i’r dref. Wedi cyrraedd yno fe welwch olion helaeth o’r gaer hon ar ffurf cwterydd ac amddiffynfeydd o garreg. Oddi tannoch bydd Dyffryn Wysg yn ymestyn allan yn llydan tua llethrau Mynydd Llangatwg ar yr ochr draw a thu hwnt i hynny tuag at gymoedd diwydiannol de Cymru. Yn y cyfamser, dros eich ysgwydd tua’r gogledd bydd y Mynyddoedd Duon yn bwrw eu cysgod.

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf