Mae Parc Gwledig Craig y Nos wedi ei…
Pellter
2.6km / 1.62milltir
Cyfeirnod grid OS SO285133
Postcode NP7 9LP
Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)
Approximate time
1 awr
Gradd tro
(5 = Hardest)
Dewch am dro rhwng dau bentref ar lan camlas ar hyd yr hen reilffordd hon sy’n rhedeg islaw llechweddau gwyrddlas y Blorens. Mae’n cynnig newid i dre’r Fenni ei hun gan roi cyfle i fwynhau treftadaeth ddiwydiannol a naturiol yr ardal. Taith gerdded gradd 1 yw hon – llwybrau sydd heb rwystrau, nemor ddim goleddfau a gydag wyneb caled neu gadarn. Ceir llefydd i eistedd hefyd.
Byddwch yn dilyn hen reilffordd Merthyr, Tredegar a‘r Fenni trwy hafnau ac ar hyd argloddiau, gan fwynhau golygfeydd gwledig o’ch cwmpas. Mwynhewch olau chwareus yr haul wrth iddo ddawnsio ar y llwybr drwy’r canghennau o goed helyg a bedw. Efallai y gwelwch ddryw bach neu fywyd gwyllt arall yn fforio am fwyd ymysg y planhigion sy’n mwynhau’r cysgod bob yn hyn a hyn ar hyd y llwybr. Cofiwch fod yn effro i ganiad cloch beic yn eich rhybuddio fod beiciwr yn dynesu. Efallai mai dyma’r sain cyfoes sy’n cyfateb i hen ganiad yr injan stem yn y dyddiau a fu wrth iddyn nhw straffaglu i fyny i gyfeiriad Brynmawr – llethr ysgafn i ni ond yn oleddf sy’n dipyn o her i drên! Cofiwch edrych a welwch chi’r nifer o nodweddion sy’n dynodi cyfnod y trên stêm; pyst milltir, arwyddion goleddf ac adeiladau ar hyd y lein fel hen Orsaf Gofilon.
Gwyliwch rhag y beicwyr fydd am eich pasio; mae Llwybr 46 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd ar hyd y rheilffordd.
Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein.
Dewch o hyd i ystod unigryw o fapiau, canllawiau a llyfrau i helpu i gynllunio'ch ymweliad â'n Parc Cenedlaethol